Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, yr oedd amryw wedi dyfod atynt. "Nothing serious," meddai Parri wrthynt, "and no bones broken. Poor cabby—he's just knocked out, that's all. Help me to put him in the cab, someone; I'll drive—luckily I am able to drive myself—we'll take his overcoat off first, and put it over him; mine, too, I think—must keep him warm after the shock." Wedi ei osod o i hanner gorwedd ar y sêt, caeodd y drws, a dringodd i fyny i sêt y gyrrwr, ac ymaith ag o.

"Wel," meddai yn y man, gan droi i stryd ochr, "dyma fi o fewn canllath i'r stesion." A thynnodd i fyny wrth y cyrb, "Dyma le go dawel, ac ychydig o bobl o gwmpas.'

Neidiodd i lawr, ac ymhen ychydig eiliadau, yr oedd côt drom y gyrrwr amdano, a'i het galed o am ei ben, a'i gôt yntau dros y gyrrwr, a'i het feddal ddu o ar lawr y cerbyd. Gwthiodd bedwar papur pumpunt i boced ei wasgod, â'u hanner allan, rhoes ddau arall yn ei law-"Un ar lawr eto," meddai wrtho'i hun, "ac os medra'i ddianc am bymtheg punt ar hugain, mi fyddaf wedi gwneud hynny yn rhad. Wel, dyma gynnwys hwn eto i'th gadw'n ddiddig am dipyn bach yn rhagor." A gwnaeth yr ail bistol eto'i waith yn effeithiol.

"Dipyn yn dyn ydyw'r gôt meddai Parri, dan ddringo i sêt y gyrrwr, a chychwyn am y stesion, ac y mae'r het yn pwyso ar fy nghlustiau i hefyd, ond mae hynny yn beth cyffredin iawn i'r cabis yma, ond os ydyw ei wyneb o yn dewach na f'un i, 'does ganddo ddim locsyn na mwstas wrth ryw lwc. Wel 'rwan amdani, dyma ni yna, damia'r boen yma yn fy ngwegil, heblaw am hwn, mi fuaswn yn fy elfen, buaswn wir."

"Fel y gyrrai i'r stesion, gwelai ddau blisman yn union o'i flaen, "Ie," meddai wrtho'i hun, "dyma nhw yn disgwyl. Sut y cafodd y ddau wybod tybed? Mae hynny yn bwysig iawn i mi."

Dan ymson fel hyn, gyrrai yn union at y plismyn, gan