Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A than fynd, dywedodd hanes yr helynt yn ystafell breifat y banc, ac nid oedd wedi gorffen pan gyraeddasant iard y stesion.

"Oh! they've landed him right enough," meddai'r swyddog dan gerdded tua'r cab, ac edrych ar y plisman yn cynnal y gyrrwr druan, a hwnnw yn edrych yn bur wael hefyd. "He must have taken poison, sir," ebe'r plisman, "to be as sick as this."

"Poison?" gwaeddodd y swyddog, "poison! Who the devil have you there?"

"We acted on your instructions, sir—from the bank, and conf. . ."

"Oh! you blithering idiots," ysgyrnygodd y ditectif, "this is the driver, Where is the fare? Where?"

"B-but the driver has just gone inside the station to telegraph. . ."

Ond yr oedd y swyddog eisoes yn rhuthro am y fynedfa i'r stesion, a'i gyd-swyddog o Gymro wrth ei sodlau, wedi anghofio'r cwbl am y boen yn ei glun, a'r rhwyg yn ei drywsus.

"You go ahead, Taffy, and make enquiries further on, my head is beginning to spin again. I'll question the ticket collector, and follow you."

A chyn pen ychydig iawn, cafodd y swyddog wybod digon gan ŵr y ticedi, i'w yrru nerth ei draed, ymlaen hyd y platfform, ond ar hynny daeth y fath benysgafndra arno, fel mai prin y llwyddodd ei goesau i'w gario at sêt, cyn rhoi odano.

Ac fel y bu'r digwydd, at yr union sêt yr eisteddai Parri arni, ac yn awr yn dechrau dyfod ato'i hun.

Erbyn hyn yr oedd y swyddog o Gymro wedi cael gafael ar y porter, ac yn rhedeg yn ôl gydag ef hyd y platfform, i ddweud nad oedd Parri wedi mynd efo'r tren, ond ei fod wedi ei gymryd yn wael, ac mai chwilio am frandi iddo 'roedd y porter pan ddaeth ar ei draws. Ond ar hynny, gwaeddodd