Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ar y teliffon, os deallais i'n iawn ynte, mae mor anodd deall y cocnis 'ma. Gobeithio na wnaiff Parri ddim marw cyn imi gyrraedd beth bynnag, ond marw neu beidio, os oes ganddo lock-jaw, 'fydda'i fawr nes i'r lan, 'fedr o ddweud dim wrthyf. Sut andros y cafodd o beth felly tybed?"

Ymhen rhyw ddeng awr wed'yn, dilynnai'r arolygwr un o borteriaid ysbyty yn Llundain, rhwng slabiau llechi y marwdy, nes cyrraedd un arbennig. "Here we are," ebe'r porter, gan godi'r lliain oddiar ffurf dyn a orweddai ar lechen; ac yn y llwyd-olau, edrychodd yr arolygydd ar y corff, a syllu'n, syn ar yr wyneb gwelw.

"I don't know this man from Job," meddai.

"Can't we have more light?"

Ac wedi i'r porter nôl lamp arall, ac i'r arolygydd gael golwg well arno, a gweled ei ben moel, a'i law chwith heb y bys canol, meddai, mewn syndod, "By jingo! It is Parri after all; well, I'm dashed! Had I seen him with his hat on, I would never have known him." Bu'n rhaid i'r arolygydd aros yn Llundain am rai oriau i drafod mater Parri ac i roi tystiolaeth yn y cwest, oblegid ef oedd yr unig un a'i hadwaenai, ac yr oedd yr awdurdodau yn fusneslyd iawn, a'r bancer, yntau hefyd; ac ar ei waethaf, bu'n rhaid i'r arolygydd ddweud am rai pethau a'i blinai ynglŷn â Pharri, a'i fod yn amheus ohono ers tro byd; ond medrodd gadw rhag dweud dim am y llythyr, ac yr oedd y ffaith bod Parri yn mynd dan enw arall, ac yn bancio yn yr enw hwnnw yn ddigon i ddweud bod rhywbeth o'i le—ar wahan i'r ffaith ei fod yn cario'r pistolau efo fo.

Cafodd yr arolygydd ddigon o waith i'w feddwl ar ei daith adre. "Wel, wir," meddai wrtho'i hun, "mae pethau'n ddigon dryslyd, ac y mae'n amlwg i bawb yrŵan fod Parri yn un drwg, ac yn un drwg iawn hefyd, ond sut y medr rhywun brofi y busnes dwyn yma? A beth ddyweda' i wrth y Chief a wnaeth imi ei amau. A sut y bu imi fynd mor bell