trothwy y Crown y noson honno, oblegid daethai ei ofnau bod yr Arolygydd Jones yn gwybod rhywbeth, yn ôl; ac yr oedd y straen yn dweud arno.
"Pe cawn i dipyn o drefn ar fy mhethau," meddai wrtho'i hun, "fe symudwn i oddiyma i fyw hefyd. P'am andros y cymerodd Parri'r goes tybed, ac y gwerthodd o'r sioe i gyd, heb ddweud yr un hanner gair wrthyf? Ond am ei fod o wedi fy nwbl-groesi i, naddo erioed, 'doedd o ddim yn un a wnâi hynny, beth bynnag. Mi gadwa' i at fy un botel bob nos, nes bydd y miri drosodd."
Ond cyn pen chwarter awr, yr oedd Roberts wedi torri ei adduned yn yfflon, oblegid pwy ddaeth i mewn bron cyn gynted ag yntau, ond cyfaill iddo—porthmon ceffylau o dueddau Amwythig, a phrin yr oedd o wedi eistedd, cyn torri'r newydd am farw Parri yn Llundain; ac fe ddisgynnodd Roberts dipyn ym marn y porthmon a'r yfwyr eraill, oherwydd ei ddideimladrwydd o glywed y newydd. Yn wir, yr oedd yn amlwg i bawb fod y newydd wrth fodd ei galon, a mynnai dretio pawb o'i gyfeillion.
A phan adawodd y dafarn ychydig wedi wyth, dyna fu testun y sgwrs am dipyn.
"I knew," meddai y porthmon, "that they were not what we call friends, but I never thought things were as bad as that between them either. Why, he seemed to be enjoying the news of old Parry's terrible death."
Fel y dynesai Roberts at ei gartre, torrodd allan i ganu, oblegid teimlai bellach ei fod yn ddiogel iawn—efo Ifans a Pharri oddiar y ffordd.
"Yr ydw' i wedi pryderu yn ofer," meddai, "a phetasai gan yr hen Super rywbeth yn f'erbyn i, mi fuasai wedi gaf—."
Ar hynny, yn ymyl giât yr iard, gwelai rywun yn dyfod i'w gyfarfod; ac mor olau ydoedd, fel yr adnabu'r arolygydd ymhell cyn iddo'i gyrraedd.