Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyffes Parri yn tynnu'r tir o dan ei draed yn llwyr, ac y byddai'n rhaid ail—gynllunio.

A'r bore wedyn, cyn i'r Arolygydd Jones orffen ei frecwast, yr oedd Roberts yn gofyn am ei weld. "Super," meddai, "mi wnaf gytundeb â chwi—mi'ch rhof chwi ar y ffordd i brofi mai Parri'r Bwtsiar oedd yn gyfrifol am yr holl ddwyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen y ffordd yma, a'r ochr draw i'r wlad, ac o'r trenau anifeiliaid i Fanchester, yn ystod y tair a'r pedair blynedd diwethaf yma—ar un amod."

"Beth ydyw honno Roberts?" gofynnodd yr arolygydd. "Eich bod yn fy nghadw i o'r miri."

Ymddangosai'r arolygydd fel petai am wrthod y cynnig; ac ychwanegodd Roberts, "Super, y mae o'n gyfle digyffelyb, a phromosiwn yn sicr i chi, oblegid yr oedd Parri yn un o'r criminaliaid medrusaf a wisgodd esgid erioed, a mi ddychrynnwch pan glywch chi beth . . ."

"Roberts," ebe'r arolygydd gan estyn ei law iddo, "'rydych yn gofyn peth anodd iawn, ond mi dreiwn ni wneud bargen. Mae yna gwrt am hanner awr wedi deg y bore' ma, mi fydd drosodd erbyn amser cinio. 'Fedrwch chi fod yma erbyn hanner awr wedi un, inni gael sgwrs? Dowch am gwpanaid o de yrŵan, tra byddaf innau yn gorffen fy mrecwast ac yn fy hwylio fy hun."

A chymaint oedd boddhad Roberts ar ôl ei ymweliad â'r arolygydd, fel y troes i Westy'r Victoria, gan addunedu ar yr hiniog na chymerai ond y nesaf peth i ddim i'w yfed yno; ond wedi bod yno am dipyn, anghofiodd ei adduned i raddau helaeth, ac yn sicr nid oedd ar ei orau pan gychwynnodd tua thŷ'r arolygydd erbyn yr adeg benodedig. Meddai wrtho'i hun ar y ffordd drachefn a thrachefn: "Mi wyddwn y medrwn i daro bargen efo'r hen super. Mae gan bawb ei bris, a mae'r hen ddyn yn sâl eisiau promosiwn."

"Wel Roberts" ebe'r arolygydd yn siriol, ym mharlwr ei dŷ, "Dyna ni, ond wyddoch chi beth? Andros o ddyn