fo 'roeddech chwithau fel llawer—rêl hen Iddew oedd o ynte, Roberts?"
"Ie, ie'n wir, super," ychwanegodd Roberts, dan ddechrau sirioli, "rêl hen Iddew, ie, Iddew, rêl down."
"Peth rhyfedd iddo fo," meddai'r arolygydd dan agor y drws, "roi benthyg i chi hefyd, a chwithau yn gymaint o elynion."
"Ond 'dydych chi ddim yn gweld, Super—ofn i mi ddangos y papur â'i gyffes o arno yr oedd o."
"O! siwr iawn—ond peth rhyfedd na buasai gwybod bod y gyffes gennych chi, Roberts, yn ddigon i'w rwystro—fo eich gorfodi chwi i fynd yn bartner efo fo i ddwyn y noson honno. Lle mae'r papur Roberts? Rhowch imi ei weld
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi codi, ac yn edrych yn amheus iawn ar yr arolygydd: "Gwelwch chi yma, Super, os nad ydyw fy stori i yn ddigon heb. . .
Ond cyn iddo orffen y frawddeg, dyna blisman i mewn, ac o'r tu ôl i gwpwrdd llyfrau mawr ym mhen draw yr ystafell, camodd dau o ustusiaid heddwch y Dre allan, ac edrychodd Roberts arnynt, â'i lygaid bron â neidio o'u socedi.
"Wel, foneddigion," ebe'r arolygydd gan estyn papur iddynt, "'Rydych chi wedi clywed digon mi gredaf i arwyddo'r warant."
Ond ar hynny, gyda gwaedd erchyll, a chyn i'r plisman fedru ei rwystro, cythrodd Roberts i gadair drom, a rhuthrodd ar yr arolygydd.
"Y 'sglyfaeth budr," gwaeddodd, "y Judas Iscariot!" A thrawodd ef ar ei wegil â'r gadair, nes bod yr arolygydd yn suddo i'r llawr.
Paratodd y plisman a'r ustusiaid am' ysgarmes enbyd, ond ymdawelodd Roberts ar hynny, ac estyn ei freichiau at y plisman, "Cymerwch fi i'r ddalfa," meddai, "a handcyffiwch fi, a beth bynnag sy'n fy nisgwyl, mi fydd meddwl fy mod