"Y dyn gwirion" dechreuodd Roberts, yn fygythiol, ond yr oedd Parri wedi mynd o'r ystafell. Safodd Roberts am foment, â golwg hurt arno, a chychwynnodd allan. . .
"Na," meddai, "waeth imi weld beth mae'r creadur wedi ysgrifennu ar y papur 'ma, cyn mynd."
Ac meddai Parri yntau wrtho'i hun yn y gegin gefn, "Os â Roberts allan heb ddarllen y nodyn, fe synnaf yn fawr; mi rof ryw funud iddo eto. Wel 'rwan amdani."
Ar drothwy drws yr ystafell, gwelodd ar unwaith fod Roberts wedi darllen y nodyn, oblegid eisteddai yn y gadair, â golwg gymysglyd iawn arno, ond ni chymerth Parri arno fod wedi sylwi, a gofynnodd: "Wel, Roberts, ydych chwi wedi seinio?"
Ar hynny torrodd Roberts allan i chwerthin dros y lle, ond yr oedd yn amlwg mai chwerthin gwneud ydoedd, oblegid yr oedd wyneb Roberts yn bur welw, a'i ên yn crynu tipyn.
"Parri," meddai, "ydych chi'n meddwl mai rêl fiŵl ydw'i?" "Nac ydw'," ebe Parri yn dawel, "neu 'chawsech chi mo'r cyfle yma gen' i."
"Cyfle ddyn, beth ydyw'ch meddwl chi? 'Rydych chwi'n gofyn i mi roi f'enw wrth hwn, a'm gwneud fy hun yn lleidr—yn lleidr defaid! Beth sy wedi dyfod trosoch chi ddyn? Ddwynais i 'run ddafad yn f'oes, ac onibai fy mod i'n credu'ch bod chwi'n wallgo, mi fuaswn yn gwthio'r lol celwyddog sy ar y papur 'na i lawr eich gwddw chi."
"Popeth yn dda felly," ebe Parri, "dyna ben arni—mi fydd yr Arolygydd Jones yn gwybod heno un mor fedrus yw Roberts Ty'nymaes am newid nodau defaid, a bod ganddo yn y stesion ddefaid yn perthyn i J. E. Parri, wedi eu trycio yn barod i fynd i Fanchester, a mi gaiff wybod bod Roberts wedi bod ar y gêm ers tro byd, hefyd."
Tra llefarai Parri'r geiriau hyn yn hollol ddigynnwrf, tan wisgo ei gôt fawr a'i grafat a'i het, aethai wyneb Roberts yn bob lliw.