Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel, noswaith dda i chi, Roberts," ebe Parri, "mi adawaf y drws yn agored i chwi fynd allan, pan —."

"Ydych chi'n tewi'r funud 'ma?" meddai Roberts yn ffyrnig, gan neidio'i fyny, "neu mi wna' i chi—a hynny am byth."

"Am funud Roberts,—am funud bach," ebe Parri yn hamddenol, "pe gwnelech chi hynny, ni wnâi ddim lles i chi, gan 'y mod i wedi 'sgrifennu llythyr yn barod, a'i adael efo'r papurau mewn lle y ceid gafael arnynt yn rhwydd, petai rhywbeth yn digwydd i mi,—yr unig beth sy'n fy mlino i ydyw na buaswn i wedi 'sgrifennu gair ynghylch y benthyca pres a'r betio."

"Oes 'na ddim arall y medret ti ysgrifennu amdano, yr holl—wybodol?" gofynnodd Roberts yn llysnafaidd.

"Wel, nac oes, am a wn i," ebe Parri, os na buaswn i'n 'sgrifennu at Mrs. Roberts i ddweud bod tipyn o'r arian yn mynd i ryw farmed bach sy

"Parri," ebe Roberts, "beth ydyw'r gêm?—Blacmel? Y?"

"Seiniwch chwi hwnna ac mi gewch weld, ac—."

"Na wnaf Parri," ebe Roberts, "heb gael gwell dealltwriaeth na hynna."

Heb gymaint â threm i gyfeiriad Roberts, cychwynnodd Parri allan, ond ar hynny ildiodd Roberts.

""Rhoswch Parri," meddai, "mi seinia' i," a heb oedi rhagor arwyddodd y papur, yna sythodd, ac meddai, "'Rŵan, damia chi!—dyma 'mhen i dan eich cesail, ac wrth gwrs mae eisiau i minnau wneud rhywbeth rhag i chi ei wasgu. Beth ydyw?"

"Roberts," meddai Parri, "mi feddyliais am funud na seiniech chi ddim,—yn wir mi euthum mor bell â gobeithio na wnaech chi ddim, ac y buasai'n rhaid imi ddangos hwn. i chi'n gyntaf, ond mi ddylwn wybod bod hynny yn ormod imi ddisgwyl gennych. Wel, pe buasech chwi heb seinio,