'fuaswn i ddim wedi mynd at y plisman. Hwdiwch, Roberts—edrychwch dros hwn tra byddaf innau'n gorffen trefnu swper inni'n dau." Ac estynnodd lythyr i Roberts, a'r amlen heb ei chau.
A dyma a ddarllenodd:
"Yr wyf innau'n cyfaddef wrth Mr. Gruffydd Roberts, Tŷ'n y Maes, fy mod wedi bod wrthi yn lladrata defaid—a gwartheg hefyd—ers blynyddoedd, mwy o lawer nag a ladrataodd ef yn ei holl fywyd.
(Arwyddwyd) J. E. PARRI."
Cyn i Roberts gael dros ei syfrdandod, dyma lais Parri yn galw arno i'r gegin gefn, lle'r oedd swper wedi ei baratoi i ddau.
Cerddai Roberts fel dyn mewn breuddwyd, a safodd yn hurt wrth y bwrdd, â'r nodyn yn ei law. "Mr. Parri," meddai, "'Dydw'i ddim yn deall. Beth ydyw peth fel hyn? Wn i ddim beth i—. Sut mae—?"
"Mi drafodwn ni'r mater ar ôl swper," ebe Parri, "eisteddwch i lawr, a helpwch eich hun, mi ellwch wneud hynny yn hollol ddibryder."