yr amlen yn cynnwys ei gyfaddefiad, a'i rybuddio i ofalu am ei rhoi mewn lle diogel, beth bynnag a wnâi, ar ôl mynd adre. "Dyma fi yn rhoi eich cyffes chi yn fan yma," meddai gan agor drôr gêl mewn biwrô fawr, a oedd yng nghongl yr ystafell.
Wedi i Roberts fynd, eisteddodd Parri i lawr a daeth golwg synfyfyriol arno. "Wel, dyma fi wedi cymryd partner,' meddai, "a hynny am y tro cyntaf,—yn y wlad yma, beth bynnag—ac ymhob gwlad o ran hynny, partneriaid a fu gennyf, ac nid o'm bodd yr euthum i atyn' hwythau ychwaith—a phetasai'r fforman yn debyg o fyw ar ôl ein sgyffl, 'fuaswn i ddim wedi gadael y ransh, ond beth oedd gen' i i'w wneud ond mynd at y giang—neu gael fy lunsio gan yr hogiau. Ond o ran hynny, ati hi y buaswn wedi mynd rywbryd. 'Anghofia'i byth mo'r noson y cefais i o'u gafael nhw beth bynnag a fi oedd y cyntaf erioed i adael y giang honno yn fyw—a dyma fi heb ddim i ddangos fy mod i wedi bod yn y giang erioed, ond craith neu ddwy dan fy nillad, a bys canol fy llaw chwith wedi mynd, er imi orfod lladd y Gwyddel, a gadael Macpherson yn hanner marw, wrth ddianc; ond wedi i'r ddau ddeall fy mod i'n hwylio i adael y giang, ac amau fy mod yn mynd â pheth o ysbail y giang efo mi, yr oeddynt am fy ngwaed i, ac efo mi 'roedd y lwc y noson honno, fel bu'r digwydd."
Cynllun da oedd mynd i lawr i'r Argentine a dyfod efo'r llong gig, a gweithio'r ddwy flynedd hynny yn lladd—dai Birkenhead—er cased oedd gennyf y lle.
"A dyma fi wedi dechrau arni eto—efo partner, a chennyf innau ddigon o arian hefyd—mae'r peth yn fy ngwaed i—a fedra' innau ddim byw heb berygl. Ffŵl?—ie-ond 'does gen' i ddim help—yn lleidr y'm ganed—lleidr oeddwn i pan ddihengais i o Gaerdydd yn y llong—a lleidr ar honno wed'yn pan adewais hi yn New York.
"Dwyn ar ranch yr hen Williams Caernarfon yn Texas,