Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dwyn oddiar y giang ei hun—a dyma fi eto—a phe cawn i ail-ddechrau fy mywyd, dyna wnawn i eto hefyd."

Tra ymsoniai Parri fel hyn, prysurai Roberts tua'i gartre yn llawen iawn ei ysbryd.

"Wel," meddai, wedi cyrraedd, "i'r sêff â'r nodyn"; ac wrth gloi, ychwanegodd, "Dyma fi'n rhoi clo ar y sêff, ac ar geg Parri'r un pryd, ond andros o hogyn ydyw Parri—ond mi'i trystiwn i o efo'm mywyd—ar ôl y peth mae o wedi wneud heno—mae hi'n anrhydedd cael bod yn dipyn o bartner i fôi fel 'na."

Bychan a ddychmygai Roberts, ped agorasai'r amlen, y buasai llawysgrifen Parri yn llawer llwytach na phan ddarllenasai hi ym Mhen-y-cae, oblegid mewn inc diflanedig yr ysgrifenasai Parri ei gyffes.

PENNOD IV
FFYRDD TROSEDDWYR

BU'R bartneriaeth yn llwyddiant perffaith. Cydrhwng y defaid a yrrid i Fanchester, wedi newid eu nodau dan law fedrus Roberts, a'r rhai a basiai drwy ladd-dŷ Parri ar eu ffordd i fyrddau cinio pobl,—gwneid cryn elw; a bwytaodd mwy nag un teulu, gig eu defaid eu hunain, heb ddychmygu hynny.

Yr oedd gan Parri, a Roberts hefyd o ran hynny, diroedd pori ar hyd a lled y wlad, a byddai'n hwyr arnynt yn dychwelyd ohonynt yn aml. Ar rai o'r nosweithiau hynny, fe gychwynnai Parri yn ôl, ag un neu ddwy o'i ddefaid ei hun yn ei fflôt, ond ar y ffordd, mewn man neilltuol, wedi ei drefnu ymlaen llaw, yr ochr arall i wrych neu wal, byddai Roberts yn ei ddisgwyl, a hanner dwsin—weithiau ragor—o ddefaid rhyw