Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amaethwr anffodus, wedi eu dal a'u rhwymo, yn barod i'w codi i'r fflôt, at y lleill; ac ymhen ychydig iawn o amser, byddai Parri ar ei ffordd tua'r Dre i'w ladd-dŷ, a Roberts yntau yn prysuro ar draws y caeau tua'i gartre.

Yr oedd Roberts yn un o'r dynion anghyffredin hynny, a feddai rhyw ddylanwad rhyfedd ar anifeiliaid, a medrai gael gyrr o ddefaid—a gwartheg hefyd—i ben eu siwrnai yn gynt na neb, a medrai gael defaid ac ŵyn i gongl cae, cystal â llawer ci, ac yn fwy di-stwr hefyd.

Eto, er gwaethaf popeth, digwyddai rhywbeth annisgwyl yn fynych, a drysu'r cynlluniau gorau. Wedi i Parri gyrraedd y fan a'r lle y byddai wedi trefnu i Roberts ei ddisgwyl, bu raid i'r cigydd fwy nag unwaith, fyned yn ei flaen heb sefyll, ac adre heb ysbail, gan ei bod hi'n rheol bendant ganddynt, oni roddid arwydd neilltuol gan y naill, a'i chydnabod gan y llall, nad oedd Parri i aros ar un cyfrif. Weithiau, byddai Roberts, er ei holl fedr, wedi methu dal y defaid; bryd arall â'r defaid gan Roberts yn barod yn ochr y cae i'r gwrych, a Pharri yn nesáu, fe ddigwyddai rhywun arall fod yn nesáu'r un pryd.

Parai beisyclau bryder mawr iddynt, ac er bod yn gas gan eu calonnau, y lampau carbide, a oedd yr adeg honno yn dechrau disodli'r hen lampau oel, ac yn taflu eu pelydrau llachar i bob twll a chongl, rhai yn marchogaeth heb olau o gwbl a ofnent fwyaf, ac er mor ddyfeisgar gŵr ydoedd Parri, methodd yn lân â tharo ar gynllun boddhaol i gyfarfod â'r perygl yma. Ac yr oedd digon o sail i'w hofn hefyd, fel y dengys hanes dyddiau olaf eu partneriaeth diffaith; yn wir, gellir dweud mai dyma fu achlysur, beth bynnag am achos, ei diwedd hi.

Un noson yr oedd Roberts yn estyn dafad i Parri i'w chodi i'r fflôt, pan ddaeth rhywun ar gefn beisicl heb fath o olau, na rhybudd o gwbl—a chyda chyflymder enbyd-chwap!—i du ôl y fflôt.

Trawodd y beisicl y cerbyd gyda'r fath rym, n