es taflu'r gyrrwr dros y fflôt, a'i fwrw i'r llawr yn llonydd wrth draed ôl y ceffyl.
Ar hynny, llamodd y ceffyl yn ei flaen, a phrin y llwyddodd Roberts i neidio i'r ochr ei hun, cyn i'r olwyn ei daro; a buasai Roberts yn edrych yn bur syn, pe gwybuasai mai Parri ei hun a drawsai'r ceffyl yn lladradaidd â'r chwip. Ond ar amrantiad yr oedd Parri wedi cythru i'r rêns, a thynnu arnynt mor egr, nes atal y ceffyl yn ei hyd, ac meddai, gan neidio o'r fflôt, "Roberts, ydych chi'n iawn? Mi feddyliais am foment eich bod wedi ..."
"Na, 'rydw' i yn iawn," meddai Roberts, "ond beth amdano fo?"
A phlygodd uwch ei ben. "Diolch i'r Nefoedd!" meddai, "nad aeth yr olwyn ddim drosto; wn i ddim sut y dihangodd o, na wn i'n wir. Cythraul o geffyl ydyw hwn, Parri. Ewch chi am y meddyg, a mi arhos . . ."
"Roberts," meddai Parri, ar ei draws, yn dawel, ond yn bur bendant, "gedwch chi hyn i mi, ac ewch adre. Wyddoch chi ddim am y peth, welsoch chi mo'r dyn yma heno—na minnau wrth gwrs."
Petrusodd Roberts, ac ymddangosai fel petai'n mynd i wrthwynebu, ond meddai Parri yn ddistaw iawn, a chan symud yn nes ato, "A byddwch ar y clawdd terfyn tua saith bore yfory."
Heb ddweud gair, neidiodd Roberts i ben y wal, a throsodd, a chychwyn cerdded ar draws y cae. Heb gymaint â thaflu trem ar ei ôl, troes Parri at y beisicl, a'i daflu yn ddi-seremoni i'r ffôs; yna gafaelodd yn y bachgen, a'i godi fel pe na bai'n ddim ond sachaid o wlân, a'i roi'n y fflôt; dringodd i'r cerbyd, rhoes glec ar y chwip, a chychwynnodd am y Dre, gan godymu'n galed â'i broblem newydd.
Nid oedd yn adnabod y bachgen mor bell ag y gwyddai, ond ni fedrai fod yn berffaith sicr yn y tywyllwch; ac yr oedd ei wyneb yn waed i gyd. Penderfynodd nad oedd dim amdani, ond mynd â fo at y meddyg, a hynny cyn mynd â'r defaid