i'r lladd-dŷ hefyd. Golygai hynny helpu cario'r llanc i feddygfa'r meddyg, ac efallai gynorthwyo hwnnw i drin ei friwiau—os byddai fyw tan hynny. "Petasai'r olwyn wedi mynd dros ei ben," meddai wrtho'i hun, "buasai'n fwy boddhaol i mi—ac eto 'dydw' i ddim mor sicr; na, petawn i'n onest efo mi fy hun, tipyn o'm hen wendid plentynnaidd—gwendid tymer wyllt—a barodd imi roi slasen i'r ceffyl, a cheisio anafu Roberts; ond clywed 'oglau wisgi arno gododd y cythraul ynof, ond petawn i wedi ei anafu o, a lladd yr hogyn 'ma, mi fuaswn mewn tipyn o gongl—ond dyma fi'n colli munudau gwerthfawr gydag anawsterau nad ydynt yn bod, a chennyf innau broblem—problemau o ran hynny, yn y fflôt yna.
"Ie, meddwl yr oeddwn i, beth ddigwyddai tra byddwn i yn y feddygfa yn helpu'r doctor ynte; a thra byddwn i yno, rhywrai efallai yn dyfod at y fflôt wrth ei gweld o flaen tŷ'r meddyg mor hwyr y nos, i specian ac i sbiana—rhywun busneslyd efallai yn golau matsen, neu ddal lamp beisicl, a gweld nodau'r defaid yn . . ." Ond ar hynny, dyma olau o'r tu ôl i'r fflôt, a beisicl yn pasio yn gyflym, ac un o blismyn y Dre yn disgyn oddiarno wrth ben y ceffyl, gan orchymyn i Parri aros.
Teimlai'r cigydd ias oer yn mynd trwyddo, ond arafodd a stopiodd, ac meddai, heb ddim cryndod bradychol yn ei lais, "O! Prys, chi sydd yna? Arhoswch am funud, a mi ddof i lawr atoch chi."
A chychwynnodd i lawr o'r fflôt. Ond pan oedd yn rhoi ei droed ar y ffordd, dan gychwyn gofyn i'r plisman: "Beth sy'n bod Prys?" dyma gyffro sydyn yn y fflôt, a chyn iddo gael gorffen ei gwestiwn, heb sôn am wneud dim, yr oedd y bachgen wedi llamu o'r fflôt, ac yn diflannu dros y clawdd, a'r plisman wedi gollwng ei feisicl ar y ffordd gyda llw, a chychwyn ar ei ôl.
Am funud safodd Parri yn ei unfan, mewn dwfn fyfyrdod;