Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna cododd feisicl y plisman yn ofalus, a'i osod i bwyso ar y clawdd. Dringodd yn ei ôl i'r cerbyd, a chychwyn drachefn ar ei daith.

Gyrrodd ar drot hamddenol nes cyrraedd man, â chryn ddeg llath o glawdd, â'r gwrych arno yn denau a gwael, a thair rhes o weirennau pigog, wedi eu gosod i wneud y diffyg i fyny. Stopiodd Parri, ac wedi gwrando am foment, disgynnodd o'r fflôt, a chyn pen dau funud, yr oedd pum dafad ddieithr yng nghae John Humphreys, un o gigyddion eraill y Dre, a Pharri yn dringo yn ôl i'r fflôt, dan regi dan ei ddannedd, oblegid wrth godi'r ddafad ddiwethaf drosodd, llithrodd yn y llaid, a bachodd yn y weiren bigog, nes rhwygo llawes ei gôt, ac agor sgôr ddofn yn ei fraich.

Modd bynnag, er gwaethaf ei anffawd, rhoes chwip ar gefn ei geffyl, a gyrrodd yn syth at y rheinws, ac ymhen ychydig iawn o amser, yr oedd yn dweud tipyn o hanes damwain y bachgen wrth yr arolygydd, ac fel y diangasai ef o'r cerbyd, a'r plisman wrth ei sodlau.

"O!" meddai'r Arolygydd Jones, wedi iddo orffen, "mae arnaf ofn ei fod wedi ein gwneud ni eto, ond mae Prys yn bur sionc."

"Beth oedd, Super?" gofynnodd Parri, "Pwy oedd o?" "O!" meddai'r arolygydd, "bachgen o'r dre yma, sy'n dwyn ieir hyd y wlad. A fuasech chi'n ei adnabod petai o'n cael ei ddal, Mr. Parri?"

"Buaswn, mi gredaf," atebodd y cigydd, "ac fel y cychwynnodd Prys, a'r hogyn wedi cael y fath godwm, mi'i deil o hefyd. Wel, 'does dim rhagor fedra' i ei wneud felly, Super—heno, beth bynnag?"

"Nac oes, Mr. Parri, yr ydych wedi gwneud yn dda iawn; a diolch yn fawr i chi am reportio'r peth. Nos dawch, syr."

""Daf i ddim i Fron y Wawr heno," meddai Parri wrtho'i hun, ar ei ffordd tua'r stabl a'r lladd-dŷ, yn y stryd gefn y tu ôl i'r siop, "mi gysgaf yn y gegin yma. Am ffŵl fûm