Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parri. 'Dydyw hi ddim ffit i gi fod allan. Mae'n debyg nad oedd fawr neb tua'r stesion ychwaith."

"Na, 'welais i ddim ond rhyw ddau yn dwad o'r tren, a dim ond Ifans Bryn y Felin yn mynd efo hi—mater o raid arno yntau, mae'n debyg—ond o ran hynny ar nos Lun y bydd o'n mynd i ffwrdd ran amlaf."

"Ond yr oeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddiwrnod talu rhent Syr William?"

"Na, wythnos i heddiw, meistr."

"Ie, siwr, yr oeddwn i wedi anghofio," meddai Parri.

Yr oedd hi bron yn dechrau tywyllu, pan ddigwyddodd Roberts daflu golwg tua'r clawdd terfyn, a meddwl ei fod yn gweled rhywun yno. "Tybed?" meddai, gan syllu yn galed. "Ie, fel mae byw fi—Parri sydd yna."

Ac mewn ychydig iawn o amser yr oedd yntau yno hefyd. "Heno amdani hi Roberts," meddai Parri, a deallodd Roberts heb ddim rhagor o eglurhad beth oedd yn ei feddwl, ac meddai, "Meddwl yr oeddwn innau dipyn cyn imi eich gweled chwi, noson mor dda fyddai heno, ac—a dweud y gwir i chi,—yn rhyw led ddisgwyl eich gweld. Mae hi wedi talu'n iawn i mi ddisgwyl—er fy mod i, mae arnaf ofn, wedi bod yn ddiamynedd; 'fuasai hi ddim yn bosibl inni gael gwell noson, fydd dim perygl i neb fod o gwmpas ar y fath dywydd, na photsiar na chipar na dim—ac y mae rhyw sôn hefyd fod Morgan y plisman yn sâl a . . . .


"'Rhoswch Roberts wir," ebe Parri, dan wenu yn oeraidd, "neu mi fyddwch yn dweud yn y munud fod y defaid wedi gyrru gair i chi i ddweud y byddant yn ein disgwyl ni, ond mae gen' i un newydd da iawn,—mae Ifans eich cyfaill wedi mynd i ffwrdd efo'r tren hanner awr wedi pedwar y prynhawn yma."

"Tewch â dweud ddyn!" meddai Roberts, yn llawen, "mae hi fel petai'r Nefoedd o'n tu ni, a rhagluniaeth wedi mynd i drafferth i symud pob rhwystr oddiar ein ffordd ni. Ydyw