Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

popeth yn barod, Parri? Mi ofalaf i am yr haearn. Ddaethoch chi â golau?"

"Na," meddai Parri, "fydd dim eisiau eich arfau chi heno—mi ddaeth y cyfle mor sydyn, fel na chefais i ddim amser i ladd fy nefaid i, felly mi af i â'r rhain dan yr hen drefn i'r dre yn y fflôt, ac mi'u lladdaf nhw heno, gan fod Ifans i ffwrdd, a phopeth.

Ewch chi ar draws y caeau, a mi af innau efo'r fflôt hyd y ffordd. Mi drefnwn ni i gyfarfod ein gilydd yng ngheg y lôn sy'n troi o'r ffordd fawr am Fryn y Felin—ddeg o'r gloch—mi gewch chi amser i fynd adre a bwyta'ch swper—a mi af innau am damaid i Ben-y-cae-nid oes dim brys—felly mi gymerwn ni'n hamser."

Er ei bod yn noson mor dywyll ac ystormus, nid oedd hynny yn ddim rhwystr i Roberts. Cerddai'n gyflym ar draws y caeau gan anelu yn ddi-feth at fwlch yn y fan yma, ac adwy yn y fan draw; ac fel y dynesai at Fryn y Felin tynnai ddraenen yma ac acw—drain a oedd wedi eu rhoi yn ferdin ar fwlch a llecyn gwan yn y gwrychoedd.

"Mae hwn yn orchwyl wrth fodd fy nghalon i," meddai, gan chwerthin ynddo'i hun, "a mi fydd defaid Ifans Bryn y Felin yn bur wasgarog erbyn y daw o'n ôl, a mi gaiff ei chlywed hi, am beidio ag aros gartre' mwy, a chrwydro llai—ha! ha! Mae fy nyled i'n fawr i Mr. Ifans; onibai amdano ef, 'fuaswn i ddim yn gorfod bod yn gi bach i Parri'r Bwtsiar Mawr—na neb arall. A heno—y Nefoedd Fawr!

Y peth a barodd lw Roberts, oedd fflach sydyn yn goleuo'r wlad fel haul, a tharan yn dilyn bron ar unwaith.

"Wel, am fellten!" ebe Roberts, "pwy fyth fuasai'n disgwyl peth fel yna heno, ond yr unig un mae'n debyg. Chawn ni ddim storm o fellt a tharanau yr adeg yma o'r flwyddyn, siawns gen' i."

Wedi cyrraedd caeau Bryn y Felin, aeth ati yn hamddenol i yrru'r defaid i gyd i'r cae nesaf i'r ffordd fawr, ac ni chafodd fawr i gyd o drafferth ychwaith, gan iddo fynd â'r ci efo