Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI
PRAW NERFAU

NID y ddau leidr defaid oedd yr unig rai yn y gymdogaeth allan ar berwyl drwg y noson ystormus honno: a phetai Roberts ddim ond yn gwybod mewn cymaint o helynt yr oedd ei brif elyn, fe arbedasai gryn lawer o boen iddo'i hun.

Yr oedd Ifans Bryn Mawr, rhwng betio a byw'n uchel, wedi mynd i ddyled fawr, ac wedi cadw hanner rhai rhenti—heb eu trosglwyddo i Syr William—a dweud wrth y meistr tir fod yr amaethwyr wedi cael colledion mawr, a'r naill beth a'r llall. A chan mai dyna'r tro cyntaf i ddim felly ddigwydd yn hanes y ffermwyr hynny, a bod Ifans wedi talu'r cyfran o'r hanner rhenti bob yn dipyn, gan ddweud y gorffennai'r tenantiaid dalu ddiwrnod y rhent, yr oedd y twyll heb ei ddarganfod.

Modd bynnag, yr oedd y rhent yn ymyl, ac er bod Ifans wedi benthyca yn helaeth, yr oedd eto yn fyr o tua chanpunt i wneud i fyny'r diffyg yn y rhenti, yn unig.

Gwyddai y byddai tenantiaid y fro, lawer ohonynt â'u rhenti yn barod yn eu tai ers dyddiau erbyn diwrnod y talu, ac yr oedd Ifans wedi penderfynu torri i dŷ gŵr o amaethwr, diarhebol am ei gynildeb, ac a drigai fel y digwyddai pethau fod, yng Nghae'r Pant, sef y lle y ganwyd ac y magwyd Ifans ei hun. Yn wir, yr oedd tua deuddeg oed pan symudodd ei dad oddiyno i fyw i Fryn y Felin. Gwnaethai ei gynlluniau yn barod ers tro, ac nid oedd ond yn disgwyl am amser cyfaddas i'w cario allan; a thua dau y diwrnod ystormus yma, yr oedd Ifans yn cyrchu tua Chae'r Pant drwy ganol y ddrycin fawr. Pan ddaeth Elis Hopcyn i'r drws, yr oedd yn amlwg ei fod wedi rhyfeddu ei weled ar y fath ddiwrnod.