Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel wir, Mr. Ifans, 'waeth imi gyfaddef ddim," meddai, "fy mod i wedi meddwl eich bod chi am adael i'r rhent yma eto basio, heb ddyfod i weld cymaint o waith ripario sydd ar yr hen dŷ yma; ac yn siwr i chi 'doeddwn i ddim yn eich disgwyl ar ddiwrnod mor ofnadwy â

"Yr oeddwn i am weled y lle ar ei waethaf," ebe Ifans. "Wel, wir, 'fuasai raid i chi ddim, mi welech ddigon ar ddiwrnod llai ystormus; mae o fel gogr heddiw."

"Felly 'rydw' i'n gweld," meddai'r steward, "ond mi awn ni drwyddo fo i gyd; gan fy mod i wedi dwad."

"Mi'i gwelwch o dipyn yn wahanol i'r hyn oedd o, pan oeddech chi yma yn byw, ond cofiwch na ripariwyd dim arno er pan aethoch chi oddiyma; mi awn ni ynteu, os ydych chi'n barod."

"Wel," meddai Ifans ymhen rhyw chwarter awr wedyn, yn y tŷ llaeth yng nghefn y tŷ, "dyna ni wedi gweled pob man, a mi rof y manylion i gyd o flaen y pen stiward, ac yr wyf yn addo . . . Diain 'innau! Ym'hle gadewais i fy ambarel dywedwch? Yr oedd hi gen' i pan ddeuthum i'r tŷ. . . O! 'rydw' i yn cofio—wedi ei gadael hi'n y llofft ffrynt yr ydw' i, ar ôl bod yn procio y seilin i weld pa mor ddrwg oedd o."

"O! mi af i'w nôl," meddai Elis Hopcyn, "fydda'i yr un dau funud." Ac ymaith ag ef.

"Wel, 'rwan," ebe Ifans wrtho'i hun, gan symud yn gyflym at y ffenestr, "gobeithio'r Nefoedd fod cliced hon yn gweithio—yr oedd un ffenestr y gegin bach beth bynnag, ond mae'r ffenestr yma'n fwy, ac yn is. Ydyw, y mae hi hefyd, wel dyma dipyn o lwc." A gwthiodd y gliced yn ôl, fel na byddai eisiau gwneud dim i'w hagor, ond codi'r darn isaf, neu ostwng yr uchaf. "Go dda, wir, mae'i chortyn a'i phwysau hi yn gweithio yn iawn hefyd, a dim ond codi'r darn isaf fydd eisiau, a mi fedra' i wthio trwodd yn hwylus, ond mi adawaf i ffenestr y gegin bach fel y mae hi, gan fy