"Mi garwn i fod yno tua hanner awr wedi wyth," meddai wrtho'i hun, pan oedd o fewn rhyw filltir i'r ffermdy. "Dyna'r adeg orau; mi rydd hynny ddigon a amser imi, a 'fydd y cyfarfod ddim yn dechrau yn fuan iawn, gan y bydd rhai yn hwyr yn cael te . . .'
"Wel," meddai yn y man, "fedra' i ddim cadw i'r caeau ymhellach, bydd yn rhaid imi orffen y daith hyd y lôn, 'does dim gwaith pum munud eto, ac y mae'r gwrychyn yn ddigon tenau imi fynd trwodd yn y fan yma." A neidiodd i ben y clawdd, ac wed'yn i lawr, a disgyn ar ei draed a'i ddwylo i'r ffôs yn ochr y ffordd.
"Ar fengoch i!" meddai, dan gychwyn codi, "mi'r oedd y clawdd yn uw—. Brenin Mawr! Be" ebychodd Ifans, gan ymunioni yn sydyn ac ymwasgu mewn braw at y clawdd, oblegid o'i flaen, ychydig i'r dde, ac o fewn llai na chwellath iddo, clywai gyffro mawr, a gwelai fod rhywun mewn cerbyd yn ymdrechu yn galed i rwystro ceffyl wedi rhusio, rhag troi'n ei ôl; ymgodai a chrychneidiai'r ceffyl yn ei ddychryn, a chyn i Roberts sylweddoli beth a ddigwyddasai, dyma'r ceffyl a'r cerbyd heibio iddo fel mellten.
"Gwarchod ni!" ebe Ifans, "dyna ddihangfa; petaswn i wedi neidio trosodd rhyw lathen neu ddwy yn nes ymlaen, beth fuasai'r blwmin ceffyl wedi wneud—os dychrynodd o gymaint, a minnau wedi disgyn yn y fan yma?"
"Car yr hen Fwtsiar Mawr oedd o, ac ef oedd yn gyrru hefyd. Beth andros wnaeth iddo fo stopio'n y fan yma tybed? Mae'r hen Barri yna hyd y ffyrdd yma fel hunllef bob awr o'r nos, 'does dim digon o arian i'r cenau cybyddlyd gael. Yr oeddwn i'n meddwl bod fy lwc wedi dechrau yn rhy dda i ddal. Ddarfu iddo f'adnabod i tybed? Wel, mae'n rhaid imi fynd ymlaen efo'r busnes, beth bynnag, f'adnabod i neu beidio, ac nid oes gen' i ond gobeithio bod yr hen Hopcyn a'i Fartha wedi aros y cyfarfod; dyn a ŵyr, 'does arna' i