ddim eisiau bod hyd y fan yma yn disgwyl am oriau iddynt fyned i'w gwlâu, a chysgu."
"Ydyw'r cig wrth law? O! ydyw, dyma fo, mi gaea hwn geg yr hen gi yna, os gwna rhywbeth; golwg hanner llwgu sydd ar y creadur, mae Hopcyn a'r wraig yn rhy gynnil i roi digon o fwyd iddo fo, ond o ran hynny, efallai na chlyw o mohono' i, mae cymaint o sŵn gan y ddrycin. Mae'n well imi roi'r masg yma am fy wyneb cyn mynd dim pellach, rhag ofn."
Cyrhaeddodd ffenestr y tŷ llaeth heb gyffroi'r ci, ac ym mhen ychydig iawn o amser, yr oedd wedi ei hagor ac ymwthio trwyddi. Safodd am ennyd ar lawr y tŷ llaeth, a gwrando yn astud.
"Mae cymaint o dwrw gwynt yma," meddai wrtho'i hun, "fel na chlywn i neb yn dyfod, nes byddai'n rhy ddiweddar, ond mae un cysur, 'chlyw neb mohonof innau ychwaith, ond ni wna hynny ddim gwahaniaeth—os tŷ gwag sydd yma."
Wedi cau'r ffenestr, teimlodd ei ffordd yn ofalus at ddrws y gegin gefn, yna trwyddo i'r lobi, a thua'r gegin orau; canfu fod y drws o'r lobi i'r gegin yn agored; ac nid oedd dim pelydryn o olau yn unman.
"Dyna fi'n sicr 'rŵan," meddai, "nad oes yma neb gartre, ac nad ydyw'r hen Hopcyn ddim wedi cadw tân yn unman ychwaith, a hithau yn noson mor wlyb-rhy gynnil eto, ond onibai am ei gynildeb, 'fuasai dim diben i mi ddwad yma ar y neges sy gen' i, hy!"
Erbyn hyn yr oedd Ifans yn prowla yn nhrorau'r biwrô a'r cwpwrdd llyfrau, oblegid yr oedd wedi cael cyfle ragor nag unwaith yn ei gysylltiad â Hopcyn, fel stiward, i gasglu lle y cadwai beth o'i arian.
"Ie, fel yr oeddwn i'n meddwl, dyma'i guddfan o," meddai, gan estyn bocs bychan o'r cwpwrdd a thywallt ei gynnwys i fag a ddaethai gydag ef, ac a grogasai wrth wregys am ei ganol, "ond ymh'le mae'r bag du, tybed? Yn hwnnw y