ar unwaith fod rhywbeth yn llipa—ddiymadferth, ryfedd, ynddo. "Mae'n rhaid," meddyliai, "fod y godwm wedi ei gnocio all—."
Ond y foment honno, dyma fellten a tharan efo'i gilydd—heb eiliad rhyngddynt, nes bod twrw fel petai'r holl dŷ yn dymchwel yn garnedd, ond er yr holl dwrf, y peth a welodd Ifans yng ngolau'r fellten a'i parlysodd.
Ni ryfeddodd ddim mai Elis Hopcyn oedd y gŵr a orweddai odano, ond saethodd y fath ias o arswyd drwyddo, pan welodd, o fewn ychydig fodfeddi i'w wyneb ei hun, wyneb Elis, â'i ddau lygad di-fynegiant yn llydan agored, a'i dafod allan, a chortyn tyn am ei wddf.
"Y Nefoedd Fawr!" ochneidiodd Ifans, gan neidio i fyny fel petai rhywun wedi ei gyffwrdd â haearn poeth, a symud tua'r drws dan ddweud wrtho'i hun: "Wedi ei grogi ei hun wrth un o ffyn canllaw pen y grisiau, a phan gythrais i iddo i'm harbed fy hun rhag syrthio, mae'n rhaid bod y cortyn wedi datod neu dorri. Wel, mi fyddaf—Ust! Mae rhywun yn nrws y cefn."
A gellid clywed rhywun yn dyfod i mewn. "Mae'n rhaid nad oedd dim clo, a minnau heb wybod," sibrydodd Ifans, gan gilio y tu ôl i'r drws a arweiniai o'r gegin, gan ryw led obeithio y medrai lithro allan cyn i Mrs. Hopcyn fedru goleuo'r lamp: oblegid cyn gynted ag y daeth Mrs. Hopcyn i'r tŷ, clywai Ifans hi'n dyfod hyd y lobi, dan ofyn yn uchel: "Elis! ymh'le'r ydych chwi? Sut na fuasech chwi wedi dyfod i'r capel? Beth ydych yn ei wneud heb olau?"
Erbyn hyn yr oedd hi yn nrws y gegin, a gobaith Ifans y medrai ddianc heb iddi ei weld, wedi mynd yn wan iawn, oblegid cariai Mrs. Hopcyn lantern, ac yn ei golau gwan, gwelodd ei gŵr yn gorwedd wrth draed y grisiau, a rhoes waedd dros y lle.
Ceisiodd Ifans fanteisio ar ei gyfle, a llithro o'r tu ôl