Wedi myned am tua milltir, gan na fedrai groesi Afon y Felin oblegid bod honno wedi codi'n uchel efo'r glawogydd—aeth drosodd o'r cae i'r ffordd fawr, ond cyn gynted a'i fod wedi troi o'r ffordd i'r lôn a arweiniai ohoni at Fryn y Felin, safodd yn stond-oblegid clywodd rywbeth yn union o'i flaen.
Safodd heb syflyd am rai eiliadau, ond buan y sylweddolodd fod cerbyd a cheffyl yn union o'i flaen, a gwyrodd yn araf i lawr, gan ochri'n ochelgar tua'r clawdd. Yn y man deallodd beth oedd yn myned ymlaen, ac anghofiodd ei helynt ei hun yn llwyr, a daeth arno ddigllonedd a chynddaredd enbyd. A phan oedd Roberts yn neidio i'r lôn, camodd atynt.
Cafodd y geiriau "Lladron defaid, aie" y fath effaith ar y lladron fel y safasant fel petaent wedi eu troi yn feini; a syfrdanwyd Ifans yntau, pan adnabu hwynt, ac am rai eiliadau, bu distawrwydd perffaith rhwng y tri.
Ac yn y distawrwydd hwn, daeth i feddwl Ifans y medrai gyfrif am ei drip byr gyda'r tren, trwy gymryd arno ei fod wedi amau'r lladron, ac meddai, "O! fel hyn mae deall pethau, aie? Roberts Tŷ'nymaes a Pharri y Bwtsiar Mawr—y ddau elyn cogio—felly'n wir! Clyfar iawn—ond dim digon clyfar os nad oedd neb arall wedi'ch amau chi, mi 'roeddwn i, a mi roesoch chwithau eich traed yn y trap yn ddel, eich dau. Pan welais i Richards yn y stesion ar y fath ddiwrnod, mi wyddwn y caech chi wybod, Parri, ac y meddyliech chi fy mod i wedi mynd i ffwrdd, ac mi ddarfu i chwithau lyncu'r abwyd—a'r bach hefyd. Gresyn ynte na buasech chi wedi cael gwybod yn gynt mai i stesion y Foel yr euthum i, a dim pellach. Mi wyddoch eich dau beth yw'r gosb am ddwyn defaid—a mi fydd transport yn rhy dda i chi o lawer."
"'Does dim posib' inni ddwad i ddeall ein gilydd, Ifans?" gofynnodd Roberts.