Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Deall ein gilydd, y lleidr budr!" ebe Ifans. "Beth wyt ti'n feddwl ydw' i, dywed?"

"Wel, beth ydych am wneud," gofynnodd Parri, gan gyffwrdd yn Roberts, fel arwydd iddo fod yn ddistaw.

"Beth ydw i am wneud? Beth ydw' i am wneud, wir. Wel, mi ddyweda' i chi beth ydw' i am wneud. Mynd i'ch riportio chwi, a hynny y munud yma. Yr ydw' i wedi eich dal chi yn yr act, ac efallai y cawn ni esboniad yrŵan ar y dwyn defaid sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y cylchoedd 'ma i gyd, a sut y mae Parri'r Bwtsiar Mawr wedi dyfod ymlaen mor gyflym: mi 'rydw' yn mynd ar f'union at y plisman—Parri'r Bwtsiar Mawr wir—Parri'r Lleidr Mawr, fydd pobl yn eich galw o hyn allan."

Ac â'r geiriau hyn, seliodd Ifans ei dynged, oblegid nid gŵr oedd Parri i betruso cymryd mesurau eithafol, pan fyddai galw am hynny. Gwyddai yn eithaf da na fedrai fforddio i adael i Ifans fynd a dweud wrth y plisman, hyd yn oed pe rhôi'r defaid yn y cae yn eu hôl a mynd adre, a thaeru Ifans yn ei ddannedd ei fod yn llunio celwyddau, a chael gan Roberts yntau daeru na welsai efe Parri'r noson honno, heb sôn am fod yn gyd—leidr ag ef. Na, a chaniatáu y methai Ifans â phrofi ei gyhuddiad, ni fedrai Parri fforddio cael ei gyhuddo o gwbl, gan mai ar ei safle, a'i ryddid perffaith oddiwrth amheuaeth y seiliasai ei dwyll. Heblaw hynny—unwaith y cyhuddid ef—byddai'r plismyn yn sicr o ddechrau holi a phrowla—ac er ei holl ofal, beth petai wedi esgeuluso rhywbeth. Pethau bychain oedd yn crogi pobl—a beth pe dechreuent chwilio i'w orffennol—a'i holi, byddai'r cortyn am ei wddf. Felly, gwnaeth ei feddwl i fyny ar unwaith. "Wel, Ifans," meddai, "mi'r ydych yn gwneud camgymeriad mawr, ac y mae dwy ochr i bob stori, ond, os ydych yn benderfynol na wrandewch chi mo'n hochr ni, os ydych am fynnu reportio'r peth, mi ddown ni hefo chwi." A rhoes