bwniad i Roberts, a sibrwd, "Gedwch chi bopeth i mi, a gwneud yn union fel y dyweda' i."
"Waeth inni roi'r defaid yn eu holau ddim, Roberts," ebe Parri yn uchel, "O ran hynny, beth sydd i'n rhwystro ni eu rhoi yn eu hôl a mynd adre, a gadael iddo fynd efo'i stori at y plisman? Pwy coeliai o, Roberts? 'Does ganddo ddim tyst, ac y mae dau ohonom ni."
Am foment, daeth tipyn o bryder ar Ifans, ond meddai, "Gwnewch chi fel fynnoch chi, ond mi 'rydw' i yn sicr ohonoch chwi ac wedi clywed fy stori i, mi fydd yn rhaid i'r polîs chwilio eich paciau chi, ac efallai na liciwch chi mo hynny; ond 'chewch chi ddim ymadael â mi mor hwylus â hynny chwaith, mi'ch dilynaf chi bob cam i'r Dre, gwnaf myn cythra'l,—na mi wnaf yn well na hynny,—mi redaf i Dŷ'n Lôn, a mi gaf gan un o'r hogia' eich dilyn chi efo beic."—
"Arhoswch Ifans," meddai Parri, "fel y dywedais i, mae dwy ochr i bob stori"—
"Does dim dwy ochr i hon beth bynnag," ebe Ifans, "yr ydw' i'n mynd, gwnewch chi fel y mynnoch chwi."
"Wel, mi ddown ninnau efo chi," ebe Parri, "i ddweud ein hochr ninnau. Ymh'le y medra' i droi'r fflôt yn ei hôl, Ifans? Mae hi'n rhy gul yn y fan yma."
"P'am na fagiwch chi i'r lôn fawr ynte?" gofynnodd Ifans. "Dyna un peth na wna'r ceffyl 'ma ddim; mae o wedi cael cast."
"O! wel, mae yna ddigon o le draw gyferbyn â'r llyn," ebe Ifans. A chychwynasant.
Tywysai Parri'r ceffyl, a cherddai Roberts wrth ei ochr, dan sibrwd, "Dyma hi wedi darfod arnom ni."
"Byddwch yn ddistaw," sïodd Parri yn ei glust, "a gwnewch chi'n union fel y byddai i'n dweud wrthych."
Cerddai Ifans o'r tu ôl, a chai dipyn o foddhad wrth feddwl am y cynnwrf a ddilynai dadlennu hanes Parri a Roberts