ei dwyll, y pasiai'r rheithwyr yn hollol naturiol, mai ei ddiweddu ei hun a wnaethai i osgoi y canlyniadau, ac mewn un ymdrech ofnadwy, cafodd ychydig o'r cadach wed'yn o'i enau. "Hogiau annwyl!" ochneidiai, "er mwyn y Nefoedd, gwrandewch. Mi arbedaf i i chi roi cortyn am eich gyddfau. Yr ydych eich dau yn berffaith ddiogel; 'feiddia' i ddim achwyn arnoch, a phan glywch chi beth sy' gen' i i'w ddweud, mi welwch mai fi fydd at eich trugaredd chwi, ac nid chi at fy nhrugaredd i. Roberts, teimlwch fy mhocedi i. 'Glywch chwi'r pres yna? Tynnwch y bag yna o boced fy nghesail i hefyd. Yr ydw' i wedi gwneud peth llawer gwaeth heno na dwyn defaid."
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi teimlo sofrenni lawer yn ei bocedi, ac wedi agor y bag, ac yn edrych yn hurt ar y masg, dan wrando yn syfrdan ar Ifans, wrthi yn dweud ei hanes yn torri i mewn i Gae'r Pant, a'i brofiad brawychus efo'r corff.
Ni ddywedodd Parri air.
"Peth arall hefyd, Mr. Parri," ychwanegodd Ifans, "mi'm gwelsoch chwi fi'n ymyl Cae'r Pant, neu o leiaf mi'ch gwelais i chi. Duw'n unig ŵyr gymaint o fraw a gefais i pan neidiais i i'r ffordd, bron ar gefn eich ceffyl chi yn y tywyllwch.
Dim gair gan Parri wed'yn, er bod Roberts wedi rhoi pwniad iddo ragor nag unwaith.
"Goleuwch fatsen," ebe Ifans, "mi ddeil yn olau yn ddigon hir i chwi weld beth oedd gen' i am fy wyneb.
"Ond," gofynnodd Roberts, "i beth yr oeddech chi yn torri i mewn i Gae'r Pant o gwbl? Mae hi'n iawn arnoch chi."
"Iawn?" ebe Ifans yn chwerw. "Gresyn na buasai hi, petaech chi ddim ond yn gwybod, yr ydw'i mewn twll ofnadwy." A dechreuodd ddweud hanes y rhenti.
"Oedd Huws, Tŷ'r Meirch, yn un ohonynt?" gofynnodd Parri.