heb gymaint â'i rybuddio fo i gadw ei geg yn gaead ynte?" gofynnodd Roberts.
Ar hynny stopiodd Parri y cerbyd, a chan droi at Roberts, meddai, "Does dim eisiau rhybuddio Ifans, ond Roberts, yr ydw i'n eich rhybuddio chi yn ei le. Nos dawch."
A neidiodd Parri i'r cerbyd, ac ymaith ag ef.
"Ie, dôs y llofrudd," ysgyrnygodd Roberts, ond yn llawer rhy ddistaw i Parri ei glywed, "mi fuasai'n dda gan f'enaid i petaswn i 'rioed heb dy weld ti—y clyfar ei hun. Ond aros di 'ngwas i,—efallai nad wyt tithau ddim wedi dysgu popeth chwaith!"
PENNOD VIII
HUNLLEF IFANS
SAFODD Ifans Bryn Felin yn ei unfan nes i'r fflôt fynd i'r lôn fawr, cyn sylweddoli ei fod yn wlyb at y croen, a throes yn araf tua'r tŷ. Nid oedd y wraig weddw a gadwai dŷ iddo, gartre'r nosweithiau hynny—gan fod ei chwaer-yng-nghyfraith yn wael iawn, ond yr oedd wedi gadael tân oer yn y gegin yn barod at y bore. Wedi cyrraedd y tŷ, er mor hwyr ydoedd, rhoes Ifans fatsen ynddo. Llyncodd gropar o wisgi ac aeth i newid ei ddillad.
"Mi ddylwn wneud tamaid i mi fy hun," meddai, "ond 'fedrwn i fwyta dim. A waeth imi heb â mynd i 'ngwely 'chwaith—'chysgwn i 'run winc petaswn i yn mynd." Ac eisteddodd i lawr o flaen y tân, a photel wisgi a gwydryn wrth ei benelin. "Brenin Mawr!" meddai, "mi 'rydw' i wedi mynd iddi hi, ond 'doedd dim arall i'w wneud, mi fuasai Parri wedi gwneud diwedd arna' i, mor wir â'm bod