Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ar y gadair 'ma. 'Rydw' i'n lwcus iawn nad ydw' i ddim yn y farn. Pwy fuasai'n meddwl bod yr un o'r ddau ar y gêm yna, heb sôn bod y ddau yn bartneriaid? Ond o ran hynny, pwy fuasai'n meddwl fy mod innau'n lleidr? 'Does dim posib' gwybod pwy ydyw neb o ran hynny. Gaean' nhw'u cegau tybed? P'run bynnag wnân' nhw ai peidio—mi fyddaf i'n y ddrag cyn bo hir. Mae Huws Tŷ Meirch wedi dechrau amau yn barod! Dyna ddechrau'r diwedd." A thywalltodd gryn chwarter glasiad o wisgi wed'yn, a'i lyncu, ac ail ddechrau pendroni uwchben ei broblemau.

O'r diwedd syrthiodd i gwsg anesmwyth, gan ail fyw mewn breuddwydion, helbulon y noson.

Bu farw chwaer-yng-nghyfraith Mrs. Huws, ei howscipar, un o'r gloch y bore; a thua chwarter wedi chwech cychwynnodd hithau am Fryn y Felin i gynnau tân, ac i wneud brecwast, er y gwyddai na fyddai ei meistr gartre, gan iddo ddweud wrthi ei fod yn mynd i Birmingham. Gwaith rhyw chwarter awr oedd o dŷ ei chwaer-yng-nghyfraith i Fryn y Felin, ac yr oedd yn dywyll ac yn bur ystormus o hyd. Gofidiai wedi iddi gychwyn, ac fel y dynesai at lecyn trymllyd wrth Fryn y Felin, lle tyfai coed derw tywyll, a'r ddrycin yn rhuo yn eu brigau, na buasai wedi derbyn cynnig ei brawd i ddyfod i'w danfon, oblegid yr oedd gweld ei chwaer-yng-nghyfraith yn marw wedi effeithio gryn dipyn arni.

Yr oedd ganddi hi a'i meistr allwedd, ond pan gyrhaeddodd y drws, er ei syndod, gwelodd fod agoriad yn y clo'n barod. "Fe gafodd meistr sbario mynd i ffwrdd wedi'r cwbl," meddai, "mae'n dda fy mod i wedi dwad, ond peth rhyfedd iddo fo anghofio tynnu'r agoriad." Ac agorodd y drws mor ddistaw ag y medrai, a mynd i mewn.

Gan nad oedd y wawr wedi torri, a bod y gannwyll wedi hen losgi allan, yr oedd hi'n hollol dywyll yn y gegin, ond gwyddai lle y gadawsai'r blwch metsis ar y bwrdd, a cherddodd at y bwrdd i'w estyn; ond wrth ymbalfalu yn y tywyllwch,