Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ran hynny, ac aeth Ifans allan yn fuan iawn, fwydo'r anifeiliaid. Daeth yn ôl yn y man, ac meddai, "Mrs. Huws, mi'r ydych chwi wedi cael amser caled ers dyddiau, a 'fuoch chi ddim yn eich gwely o gwbl neithiwr, efallai y buasech chi'n licio mynd i orffwys."

"Na, meistr," meddai hithau, "ond os medrwch chi fy sbario i, mi fuaswn yn licio mynd i helpu tipyn ar fy mrawd."

"Ar bob cyfrif, Mrs. Huws," meddai yntau, yn falch iawn o feddwl y cai ef fod ei hun y diwrnod hwnnw; a phrin yr oedd Mrs. Huws wedi mynd, nad oedd Tomos Edwart, Tyddyn Isa', ym Mryn y Felin mewn tymer ddrwg iawn.

"Ifans," meddai, "dyma'r tro diwethaf i mi ddwad yma i gwyno ynghylch eich hen ddefaid chi, os na chedwch chi nhw, mi rof y cwn arny' nhw, a mi gân' eu gyrru mor bell fel na ddowch chi ddim o hyd iddyn' nhw tu yma i angau 'chwaith.'

A threuliodd Ifans y bore i gyd, a rhan helaeth o'r pryn-hawn yn chwilio am y defaid a yrasid ar ffo, gan gi Roberts, y noson cynt. Ac yn rhyfedd iawn ni welodd neb a oedd wedi clywed am helynt Cae'r Pant.

Eithr pan oedd yn troi o'r ffordd fawr i'r lôn a arweiniai. at Fryn y Felin—yn union yn y fan y daethai ar draws y lladron y noswaith cynt, pwy welai ond Roberts—a'r peth cyntaf a ddywedodd oedd: "Y postman gwelodd o, Ifans."

"Gweld beth?" gofynnodd Ifans.

"O'r Tad! fel yna 'rydych chi—ond yr hen Hopcyn, siwr iawn, â'i dei am ei wddf." A gwingodd Ifans.

"Unarddeg bore yfory y mae'r cwest."

"Ie?" meddai Ifans yn gwta.

"Mae'n debyg mai noson dipyn yn ddi-gwsg gewch chi heno Ifans, ond mi fydd yr arian yn dipyn o gysur i chi," meddai Roberts, ac ychwanegodd yn wamal-" "Does dim i chi wneud ond gweddïo am i'r crwner a'r rheithwyr gael yr 'arweiniad' yfory. Ha! Ha!"