Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ymaith ag o ar hynny.

"Mi fuasai'n well gen' i drystio Parri—er mor beryglus ydyw hwnnw, na'r cenau yna," meddai Ifans wrtho'i hun, dan fynd adre'n bur anesmwyth ei feddwl

PENNOD IX
A BREUDDWYD EI HOWSCIPAR

YR oedd Roberts yn ei le, di-gwsg a di-orffwys a fu'r noson honno i Ifans, ac er iddo godi'n fore a mynd allan, nid aeth ymhell iawn, ac osgoai bawb o'i gymdogion a welai drwy'r bore, er ei fod yn methu â byw yn ei groen bron, eisiau gwybod sut yr oedd pethau'n mynd ymlaen.

Tua dau, aeth ei bryder ynghylch y cwest yn ormod iddo, a phenderfynodd fynd i dŷ cefnder iddo a oedd yn byw rhyw filltir a hanner o Gae'r Pant, ac a oedd yn lled sicr o fod wedi ei alw i'r cwest. Ac ni siomwyd ef; yr oedd Edwart Dafis, ei gefnder, ar y cwest, ac fel y mynnai pethau fod, newydd ddychwelyd adre, ac yn llawn o'r hanes. Llamodd calon Ifans, pan glywodd mai dedfryd y cwest oedd mai gwneud diwedd arno'i hun, ag yntau allan o'i bwyll, a wnaethai Hopcyn. Ymddengys bod Hopcyn wedi cael newydd drwg y prynhawn hwnnw—y banc yn syrthio arno am ddau gant o bunnau, oherwydd methdaliad mab i chwaer iddo, yr aethai Hopcyn yn feichiau drosto, a bod hynny wedi ei yrru i'w ddiweddu ei hun.

Ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, galwyd ar ei gefnder at ryw fusnes neu'i gilydd. "Peidiwch â mynd oddiyma nes dof yn ôl, cofiwch," meddai wrth Ifans, "yr ydych yn ŵr mor ddieithr fel na byddwn ni byth yn cael