sgwrs, ond gan eich bod chi wedi dwad, 'chewch chi ddim mynd nes inni gael tipyn o'ch cwmni chi."
Felly arhosodd Ifans i de, ac yr oedd hi bron yn hanner awr wedi chwech cyn i'w gefnder ddyfod yn ôl, ac yntau a'r plant wedi cael hwyl fawr efo'i gilydd drwy'r prynhawn. Yn y man medrodd Ifans arwain ei gefnder at y cwest drachefn.
"Y mae un peth," meddai Dafis, "yn peri tipyn o ddyfalu. Sut na fuasai yno rywfaint o arian yn y tŷ. Fe ddylai y rhent fod yn y tŷ gan i Ellis Hopcyn druan ei chodi o'r banc rai dyddiau'n ôl, ond 'does neb wedi ei gweld hi, ond y mae'n sicr y medr Mrs. Hopcyn daflu goleuni ar y peth, os daw ati ei hun. Ond dal yn wael iawn y mae hi o hyd, ac wedi colli ei lleferydd yn llwyr. Tybia rhai fod Hopcyn wedi cuddio'r rhent yn rhywle, gan yr arferai guddio pres yn y lleoedd rhyfeddaf, a hynny heb i'w wraig ei hun fod yn gwybod; ef gadwai y pres, a byddai'n rhaid i Mrs. Hopcyn ofyn iddo am bob dimai. Gresyn na fedrai Mrs. Hopcyn roi ei thystiolaeth, gan fod yn debyg y gallai hi egluro tipyn, ond golwg dipyn yn anobeithiol a gymer y meddyg lleol ar ei hachos, ond y mae'r polîs wedi gyrru am ddoctor mawr o Lerpwl, sydd yn awdurdod ar y parlys, i ddyfod i'w gweld, ac i edrych a fedr hwnnw wneud rhywbeth iddi fedru siarad." Ar hynny cofiodd Ifans yn sydyn nad oedd neb gartre, a bod ei howscipar yn nhŷ ei brawd; ac er holl berswadio ei gefnder a'i wraig a'i blant, mynnodd Ifans gael mynd.
"Beth ydyw meddwl pobl yn dweud bod eich cefnder wedi mynd yn ŵr mawr ar ôl cael ei wneud yn stiward i Syr William?" meddai gwraig Dafis wrtho ar ôl i Ifans fynd, "Welais i 'rioed mohono ddim cleniach a mwy cartrefol na heddiw, ac yr oedd y plant wrth eu bodd efo fo."
"Wel, ie, wir," meddai ei gŵr, "ac y mae un peth yn sicr, 'welais i erioed mohono mor glên efo mi, er pan gafodd o'r job beth bynnag,—o ran hynny, 'welais i fawr arno o gwbl,