na chlên na fel arall. Beth wnaeth iddo fo ei chodi hi mor sydyn tybed, ar ganol ei sgwrs?"
"Ond cofio wnaeth o debyg iawn nad oedd neb gar—." "Am ei fod o wedi ymgolli cymaint yng nghysuron ein cartre' bach cyffredin, a'n cwmni diddan ni-'choelia'i fawr. Na, mi 'rydw' yn ei adnabod yn ddigon da i fethu llyncu hynna.
Beth andros oedd arno eisiau yma i ddechrau tybed?"
Ac meddai Ifans, yntau, wrtho'i hun ar ei ffordd adre: "Tybed 'y mod i wedi llawenychu yn rhy fuan? Yr oeddwn i'n ofni, pan glywais i'r ddedfryd, fod pethau'n mynd ymlaen yn rhy hwylus. Wel, beth bynnag a ddigwydd, mae hyn yn sicr, ni chaf fy nghyhuddo o'i grogi o 'rŵan, a dyna'r peth mawr."
Pan gyrhaeddodd Ifans, gwelodd ar unwaith fod Mrs. Huws wedi bod gartre, oblegid yr oedd y llestri swper wedi eu hestyn, a'r bwrdd wedi ei osod, a nodyn yn dweud ymh'le'r oedd popeth, ac y byddai hithau yn ei hôl wyth o'r gloch.
"Mi fydd yma gyda hyn," ebe Ifans wrtho'i hun, gan ddechrau bwyta, "a mi fyddaf wedi gorffen cyn y daw hi, a rhaid imi gychwyn tua'r naw yma i weld Parri eto; deg ddywedodd o ynte? Beth ydyw ei—."
Ond ar hynny cyrhaeddodd Mrs. Huws, a chyn iddi dynnu ei chôt na'i het, gofynnodd: "Glywsoch chi am Ellis a Martha Hopcyn, meistr?—Wel, am beth rhyfedd i chi freuddwydio efo nhw, a gweiddi eich bod am dagu Mar—."
Gwthiodd Ifans ei gadair yn ôl yn sydyn, ac meddai'n chwyrn ar ei thraws: "Wnes i ddim breuddwydio efo nhw—sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud hynny wrthych chi? 'Wn i ddim beth roes y fath syniad gwirion yn eich pen chi, a gorau po gyntaf i chwi ei gael oddi yno hefyd."
"Do, wir, meistr, mi ddâr—."
"Naddo, meddaf innau," ebe Ifans, gan godi ar ei draed yn wyllt, "a chymerwch chi ofal na ddywedwch chi mo'r