na fydd yma neb ond ni'n dau," meddai hithau, ac mewn tôn garuaidd ychwanegodd, "Galwch fi'n Annie."
"Olreit ynte—wna' i ddim—y—hynny ydyw—gwnaf, ydw' i yn feddwl."
"Beth—galwa' i chi, dwedwch," gofynnodd Mrs. Huws, gan wrido fel geneth swil "'wna hi mo'r tro imi'ch galw chwi'n Mr. Ifans. Beth am Ifans am dipyn yn y dechrau 'ma-a Johnnie wedy-
"Duw annwyl, nage—peidiwch a 'ngalw i'n hynny," meddai Ifans.
"Wel, John, ynte?"
"Ie," ebe Ifans, "ie siwr—ond pryd yr oeddech chwi'n dweud bod Roberts wedi galw yma?"
"Wel, 'fedraf i ddim dweud yn iawn; wrth giât y cefn y gwelais i o pan fûm i yma yn hwylio swper."
"Felly," meddai Ifans wrtho'i hun, "yr hen garlwn gwenwynig."
"Pryd y rhown ni'r peth allan, Meistr—y John?" gofynnodd hithau'n fwyn.
"Mi gadwn i'r peth yn ddistaw am dipyn," ebe yntau yn frysiog, "ond —."
Torrodd Mrs. Huws yn llawn cyffro ar ei draws: "O! beth fydd pobl yn ddweud pan glywa' nhw? Mi fydd yn syrpreis—na, fydd o ddim 'chwaith; dyna oedd pawb yn ddisgwyl, o ran hynny. 'Wn i ddim faint sy' wedi bod yn dweud hynny wrthyf, a mi wn y bydd eich mam, beth bynnag, yn falch iawn."
"Bydd, bydd siwr," ebe Ifans, "ond dywedwch i mi—oedd Roberts yn holi llawer?"
Ond yr oedd yn amlwg bod Mrs. Huws wedi cael mwy na digon ar Roberts Tŷ'nymaes, a'i bod yn benderfynol na chai ei hysbeilio hi o ddim rhagor o'r munudau hyfryd hynny, ac meddai, "Na, 'holodd o ddim rhagor, a dweud y gwir i chwi—chafodd o ddim llawer o groeso gen' i, mi