'roedd o yn siarad yn wirion,-ac yn dweud,—ac yn dweud y dylwn i fod wedi ail-briodi, a mi ddwedais i fy mod i'n brysur, a mi welodd nad oedd 'na ddim croeso iddo fo."
Gwelodd Ifans fod yn rhaid iddo adael i Roberts, a thalu sylw i Mrs. Huws, a cheisiodd ymddangos fel petai'n cymryd diddordeb mawr yn ei sgwrs, ond y gwir oedd, bod meddwl Ifans yn crwydro 'mhell yn aml, ac ymhen tipyn, meddai: "Yr ydw i'n siwr y gwnewch chwi faddau imi am y tro, ond mae gen' i waith ysgrifennu ofnadwy, ac yr ydych chwithau wedi blino ar ôl bod yn helpu'ch brawd."
Ac os teimlai Mrs. Huws nad oedd Ifans mor frwd ag y carai iddo fod, fel dynes gall, ni ddywedodd ddim, ond—"Oes, da y gwn i fod gennych waith di-ddiwedd, a mi fuasai'n dda gan 'y nghalon i petaech chwi'n gadael imi'ch helpu chwi. Ydych chi'n siwr y byddwch chi'n gynnes? Mi rof i gnap ar y tân cyn mynd?"
Ac wedi clywed twrw drws y llofft yn cau, meddai Ifans, "Wel, dyna fi wedi ei gwneud hi yrwan."
Ac yn rhyfedd iawn yr un geiriau yn union a ddywedodd Mrs. Huws yn y llofft wrth ei llun yn y drych, dan dynnu oddi amdani, a rhoi pinnau cyrlio yn ei gwallt—ond mewn tôn dipyn yn wahanol.