Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb ei wahodd, gan ei osod ei hun yn gysurus mewn cadair heb ddweud dim, ac Ifans yn ei ganlyn, ymhell o fod yn hapus. Ymhen tipyn, meddai Roberts, gan snyffian a gwenu, ac edrych yn awgrymiadol ar y botel wisgi: "Wrthi'n dathlu Ifans, wrthi'n dathlu."

Cododd Ifans ac estyn gwydryn a thywallt chwarter ei lond o'r gwirod, a'i estyn i Roberts, ond heb gymryd dim ei hun.

"Wel, iechyd da i ŵr y tŷ," ebe Roberts, "ac i Hopcyn yn ei dŷ newydd nos yfory, hynny ydyw os bydd y cynhebrwng yfory hefyd, ynte?" A chwarddodd Roberts gan gymryd llwnc drachefn. Yna trawodd ei wydryn ar y bwrdd, a chododd ar ei draed ac estyn ei law—"Ysgydwch law, Ifans," meddai. "Sôn am Charles Peace, myn diain i. Hy! 'Doedd o ddim ynddi efo chi, nac oedd, ar fengoch i. 'Rydych chi'n glyfar, ydych fel mae byw fi, ac yn lwcus hefyd."

"Wn i ddim beth am hynny," meddai Ifans, yn swta. "Wyddoch chi ddim beth am hynny, wir! 'Rydych chi'n rhy ostyngedig, Ifans, a chwithau wedi cael hôl mor dda!"

"Hôl!" meddai Ifans yn chwerw, "Chefais i ddim hôl—." Edrychodd Roberts arno mewn edmygedd, ac meddai: "Dyna ydw i'n ei lecio ynoch chi, Ifans, mae golwg mor ddiniwed arnoch chi pan fyddwch chwi'n dweud clamp o gelwydd. Beth am y rhent, 'y ngwas i? Pwy gafodd yr hôl, ynte? Y Genhadaeth Dramor? Y?

"Roberts," meddai Ifans, yn ddifrifol, "yr ydw' i'n dweud ar fy llw wrthych eto, na chefais i mo'r rhent."

"Tell that to the Marines, Ifans," meddai Roberts ar ei draws, "os ydyw Rhys y Plisman wedi llyncu'r stori, 'dydw' i ddim. A gwelwch yma, Ifans—mi 'rydym ni'n dau yn gwybod gormod am ein gilydd, a 'does dim cyfrinachau i fod rhyngom ni, a—y—rhag imi aros yma'n rhy hir—ac i'r