Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'pisyn' yna tua'r llofft" (a rhoes winc awgrymiadol ar Ifans), "fynd i amau rhywbeth, mi awn ni at y busnes sy gen' i. I ddweud y gwir yr ydw' i mewn tipyn bach o gongl, dim helynt ychwaith, 'does dim risc o gwbl, a mi wn y rhowch chi fenthyg imi. 'Cawn i ryw ganpunt am—

"Can punt! Ddyn glân! Be—."

"Ie'u benthyg nhw ydw' i'n ddweud—dim ond am dipyn bach."

"Roberts," meddai Ifans yn ddifrifol—ac yn bendant, "rhowch inni ddeall ein gilydd, a hynny ar un waith. Pa mor gyfyng bynnag ydyw'r gongl yr ydych chi ynddi hi—yr ydw' i mewn congl mwy cyfyng,—Brenin Mawr! petasai gennyf i eisiau dim ond canpunt, mi fuaswn i'n gorfoleddu. 'Fedra' i roi dim ddimai goch i chi."

"Fedrwch chi ddim—rowch chi ddim ydych chi'n feddwl, ynte?" meddai Roberts yn gâs, "wel, popeth yn dda felly—ond mi gewch fyw i edifarhau efallai."

"Choeliwch chwi mo'nof i felly?" meddai Ifans.

"Na wnaf," meddai Roberts, "ac efallai na choeliwch chwithau mohonof innau pan dd'wedaf wrthych nad ydych wedi bod mor lwcus ag ydych yn feddwl. Sut y teimlech chi pe dwedwn i wrthych fod Martha Hopcyn wedi cael ei lleferydd? Ha! mi welaf wrth eich gwep chi nad ydych yn hidio fawr am y newydd da yna. Ychydig mae hi wedi ddweud eto—ond mi ddywaid fwy yn y man—a mi helpa' i dipyn

Ar hynny neidiodd Ifans ar ei draed. "Hei, ddyn, beth ydych yn feddwl wneud?"

"Os cyffyrddwch chi ynof, mi fyddaf yn deffro'r Sleeping Beauty yna uwch ein pennau ni," meddai Roberts, "a mi ddechreuaf sôn wrthi am freuddwydio, ac am Hop—."

"Taw, y cenau budr," ebe Ifans mewn tôn fileinig, "a mi'r wyt ti wedi bod yn gwrando ar—."

"Mae'n well i ti wrando arnaf i, Ifans," ebe Roberts ar