Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI
PARRI'N DECHRAU PACIO

NID oedd Parri, y cigydd, wedi medru cadw o grafangau'r gyfraith cyhyd, ac wedi llwyddo i ddianc o'i holl anawsterau heb fod yn meddu ar alluoedd anghyffredin iawn, ac nid oedd wedi cynllunio'r un lladrad, heb ofyn iddo'i hun beth a wnâi pe digwyddai i bethau ddyrysu. Byddai'n myned i Lundain dair gwaith yn y flwyddyn, a phob tro yr âi, talai symiau o arian i mewn i fanc yn y Brifddinas, yr agorasai gyfrif ynddo fel James Jenkins, gan roi cyfeiriad y gwesty y byddai'n aros ynddo. Yn wir, onibai am ŵr y gwesty, ni buasai'r bancer wedi caniatáu iddo dan amgylchiadau mor anghyffredin, agor cyfrif, ond rhoes y gwesteiwr ei air drosto, ac yn y banc hwnnw y gwnâi yntau ei hun ei fusnes.

Dywedasai Parri wrth y gwesteiwr y byddai y busnes yr ydoedd ef ynddo, yn ei gymryd lawer ar y cyfandir, ac nad oedd ganddo gartref sefydlog.

Yr oedd hefyd wedi taflu awgrymiadau cynnil yn y Dre o dro i dro, ei fod yn meddwl rhoi gorau i'r busnes—ac yr oedd wedi hanner addo rhoi'r cynnig cyntaf arno i John Humphreys, cigydd ifanc uchel-geisiol oedd yn brysur ddyfod i fusnes mawr ei hun. Wrth addo hyn i Humphreys, yr oedd wedi pwysleisio wrtho mai yng nghymdogaeth y Dre yr oedd am wneud ei gartref, wedi iddo ymneilltuo—ond y gwir oedd, mai yn rywle digon pell oddiyno y bwriadai wneuthur hynny—rhag ofn i Humphreys, neu bwy bynnag a gymerai ei fusnes, ddarganfod rhywbeth i beri iddynt ddechrau amau rhywbeth.

"'Cawn i wythnos," meddai, wrth fynd adre'r noson y daliodd Ifans hwy, "i gael rhai o'r dyledion mwyaf yna i mewn, fe fedrwn achub tipyn o'r rec, ond mae arnaf ofn Roberts; mae o mewn dyled eto, a 'dydyw hynny rois iddo