Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am fenthyg at rywun, a dweud i beth yr oedd arno eisiau'r arian.

Ni wyddai Parri ychwaith fod carwriaeth John Humphreys ac unig ferch yr Arolygydd Jones wedi mynd mor bell, ond ddeuddydd cyn hynny, cytunasai'r ddau i briodi, ac ymhen yr awr ar ôl i Parri gynnig y busnes iddo, yr oedd John Humphreys yn dweud am y cynnig dros y cownter with ei gariad, ac fel yr oedd yn fyr o'r ddeucant.

"Gedwch chi hynny i mi," ebe Miss Jones, "peidiwch â gofyn am yr arian i neb, a dowch acw heno tua naw."

Nansi oedd unig blentyn yr arolygydd, a channwyll llygad ei thad gweddw, a gallai ei droi am ei bys bach. A'r noson honno ar ôl swper, eisteddodd ar lin ei thad, a rhoes ei braich am ei wddf, a chyn pen chwarter awr yr oedd yr arolygydd yn eistedd o flaen ei ddesg, ac yn cyfrif can punt mewn papurau, ac yn eu plith ddau bapur ugain punt; ac yn ysgrifennu tsiec am gant arall.

Bore trannoeth, un o'r rhai cyntaf yn y banc oedd Parri, yn codi symiau mawr o arian—yn wir—y cwbl a oedd ganddo yn ei gyfrif, ag eithrio rhyw bum punt ar hugain, ac mewn ateb i'r cwestiwn amlwg a oedd yn llygad y rheolwr, meddai, â gwên ar ei wyneb, "Mi fydd gennyf fwy o gyfrif yn y banc yma nag erioed, 'rwy'n gobeithio, wedi imi orffen y dîl yma, Mr. Bowen, ond dydw' i ddim yn rhydd i ddweud dim amdani wrth neb—hyd yn oed wrth fy mancer."

Ac aeth Parri adre a chloi yr arian yn ei ddesg, a bu wrthi yn brysur weddill y dydd, yn trefnu ei bethau, yn casglu tipyn o ddyledion, ac yn gorffen setlio gyda Humphreys. Clywodd yn y prynhawn beth oedd canlyniad y cwêst ar Hopcyn. "Mi gaf weled Ifans heno yn ôl y trefniant," meddai, "ond Roberts ydyw'r perygl mwyaf: mi ddylwn gadw fy llygad arno fo; yn wir mi ddylwn fynd i'w weled heb oedi rhagor. A chychwynnodd am Dŷ'nymaes, ac yr oedd ar y clawdd terfyn cyn ei bod hi wedi dechrau tywyllu—ond