er rhoi'r arwyddion arferol i gyd, a hynny lawer gwaith, ni ddaeth Roberts ar ei gyfyl, ond gyda hynny, wedi clywed twrw Parri efo'r cwn, dyma gipar heibio, ac meddai, "Methu gwybod beth oedd achos y twrw cyfarth mawr yma a'r chwibanu yr oeddwn i, Mr. Parri."
"O! Ie," meddai Parri yn sychlyd, "yr un hen gân, Harrison, defaid Roberts yma wedi goresgyn fy nghaeau i eto."
"Wel, wel, Mr. Parri," meddai'r cipar, "mae arnaf ofn bod Roberts yn mynd i'r dogs-mae o'n gwario gormod o lawer i'r hotel, mi'i gwelais o'n mynd yno heno pan oeddwn i ."
"Wel," meddai Parri ar ei draws, "yr ydw' i wedi cael digon arno, ac yr wyf yn mynd i ddweud hynny wrtho heno hefyd." Ond erbyn i Parri gyrraedd cyffiniau'r Crown, a holi am Roberts, deallodd ei fod wedi mynd oddiyno, ac nid i gyfeiriad ei gartre ychwaith.
Aeth Parri yn ei ôl i'w gerbyd, mewn cryn benbleth. "Dydw' i ddim yn hapus yn ei gylch," meddai wrtho'i hun, "a 'does dim dichon dweud beth a all wneud yn ei ddiod, efall. Ha! mi gwelaf hi—.
A daeth rhyw befr i lygad oer glas-olau Parri, "ond mi gaiff siwrnai seithug, gan y bydd Ifans efo mi heno; mae hi wedi naw yrŵan, ac yn rhywyr glas i minnau gychwyn adre hefyd; fel y mae hi bydd yn rhaid imi alw yn y tŷ cyn gollwng y cerbyd, rhag ofn i Ifans fynd yn ei ôl, wrth weld neb gartre."
Ond nid oedd Ifans yno pan gyrhaeddodd Parri, ac er iddo ddisgwyl chwarter awr nid oedd olwg arno, ac erbyn hyn yr oedd Parri yn anesmwyth iawn. Neidiodd Parri i'w gerbyd, a gyrrodd o'r Dre ar duth fywiog; ac am yr ail dro yr wythnos honno, troes ben y ceffyl o'r lôn fawr am Fryn-y-Felin, a rhwymodd y rêns wrth yr un giât ag y gwnaeth ddwy noswaith cyn hyn. A chyn pen ychydig funudau yr oedd Parri yn cwrcydu dan ffenestr y gegin ac