yn clywed y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedai Ifans a Roberts. Bychan a ddychmygai Roberts wrth flacmelio Ifans a'i fygwth, fod, y tu allan yn gwrando, un o'r dynion mwyaf didostur, a hwnnw yn oer gynllunio sut i roi taw arno am byth.
"Buasai'r llyn yn hwylus ac yn ddidrafferth iawn," meddai wrtho'i hun, "ond beidiai hynny â dwyn Ifans i'r busnes, a 'does ynddo fo mo'r cwaliti sydd yn Roberts; heblaw am y ddiod mi fuasai Roberts yn—
Dyma fo'n dyfod, mi'i disgwyliaf o'r ochr arall i'r giât."
PENNOD XII
ROBERTS DRUAN
PAN ddadebrodd Roberts, fe'i cafodd ei hun ar ei ochr ar lawr, a'i ddwylo wedi eu rhwymo o'r tu ôl iddo, a chyn iddo lawn sylweddoli pethau, yr oedd cadach a rwymasid eisoes am ei wddf a'i ên, yn cael ei godi i guddio ei enau. Plygai gŵr uwch ei ben, ac adnabu ef ar unwaith, a deallodd yn y man ei fod ar fin Llyn y Felin.
"S—su—sut y dois i i'r fan y—yma, a be—y—th ddigwyddodd imi?" gofynnodd Roberts yn grynedig.
"Y peth pwysig i chi," meddai Parri, yn sychlyd, "ydyw—y peth sy'n mynd i ddigwydd i chi. Yr ydych yn niwsans ers tro, ond yrŵan, yr ydych wedi mynd yn berygl imi. Mae'n resyn siomi'r llyn yma ddwywaith—a gwaith y bobl a gaiff eu galw i'r cwest arnoch chi, fydd penderfynu p'run ai Ifans Bryn y Felin a'ch boddodd chi ynteu eich boddi eich hun a wnaethoch chi."
Yn rhyfedd iawn, nid ymddangosai Roberts mor gynhyrfus ag y tybiasai Parri, y buasai.