Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bethau enbyd iawn y tridiau hynny; yr oedd ei nerfau yn yfflon, ac ni fedrai fwyta fawr ddim, ac o'r botel wisgi y cawsai ei unig foddion cynhaliaeth drwy'r dyddiau cythryblus hynny. Credai yn sicr yr achwynai Roberts arno, oni thalai iddo am dewi, a thalu yn ddrud hefyd a dal i dalu yn ddrud, ac nid oedd ganddo ddim i dalu. "Mi fuasai wynebu'r prawf am dwyllo, a chadw arian y rhenti yn ddigon," meddai, "heb sôn am fusnes Cae'r Pant, a 'fedrwn i byth wynebu'r gwarth a'r gwaradwydd ar ôl dyfod o'r carchar, a chaniatáu fy mod i'n byw i weld dyfod o'r fan honno. Brenin Mawr! Beth petwn i'n cael fy nghyhuddo o ladd Hopcyn eto? Beth petai Roberts yn gyrru llythyr di-enw i'r polîs, a hwythau yn gofyn imi roi cyfrif ohonof fy hun y noson honno? Pa ddiben i mi ddweud dim am Parri ac yntau? Pwy coeliai fi?"

Yr oedd Ifans erbyn hyn wedi ei weithio ei hun i gyflwr cynhyrfus iawn. Crynai fel deilen, ac yr oedd yn chwys drosto.

"Fedra' i ddim dal ychwaneg, 'rydw' i wedi dyfod i ben fy nhennyn," griddfannodd, gan godi i fyny o'i gadair a gwasgu ei ben rhwng ei ddwylo, â golwg orffwyllog arno, "'Rydw' i'n mynd yn wallgof a fedra' i ddim dal dim rhagor, 'does dim amdani ond—ond—"; a suddodd yn swp i'w gadair. "O! Dduw," griddfannodd, "sut y medra'i wneud? Gresyn na buaswn i wedi gadael iddynt fy moddi—mi fuasai popeth drosodd yrŵan."

Estynnodd at y wisgi wrth ei benelin, ond tynnodd ei law yn ôl fel petai'r botel yn wiber. "Na," meddai, "'wyneba' i mo' Marnwr yn feddw ychwaith."

O dipyn i beth ymdawelodd, a daeth golwg benderfynol i'w lygad. Estynnodd inc a phin dur a phapur ysgrifennu. "Chaiff Roberts mo'm job i ar f'ôl i beth bynnag," meddai, "ac mi ofalaf y caiff o'i dâl am fy ngyrru i o'r byd yma hefyd."

A rhoes Ifans i lawr, air am air, stori y twyllo a'r torri i