mewn i Gae'r Pant, a'i hanes ar ei ffordd adre oddiyno, yn dyfod ar draws Parri a Roberts yn dwyn ei ddefaid, ac yn hwylio ei foddi, ac ymweliad Roberts y noson honno i geisio cael arian ganddo, a'i flacmelio; a gorffennodd fel hyn: "Dyma'r gwir, ar fy llw, air am air, a minnau ar fin tra-gwyddoldeb, ac o fewn ychydig funudau i wynebu fy Marnwr, a Duw a drugarhao wrthyf."
Plygodd y dalennau, rhoes hwy mewn amlen, ac ysgrifennodd arni:
"Dr. J. H. WYN (Crwner)."
Ond pan oedd yn mynd i'w chau, clybu dwrw o lofft Mrs. Huws, a thrawodd y llythyr yn frysiog ym mhoced ei gesail, a gwrandawodd am dipyn, ond ni ddaeth rhagor o sŵn o'r llofft. "Wel," meddai, "diolch am hynna, yr oedd arnaf ofn ei bod am godi,—Mrs. Huws druan, gobeithio y gwna hi faddau imi, ac nad effeithia helyntion heno ddim ar ei hiechyd. Wel, dyma'r diwedd." Cododd, ac o drôr yn y dreser, estynnodd getrisen a darn o linyn cryf, ac eisteddodd drachefn. "Rhaid imi roi'r gwn â'i stoc i bwyso ar lawr," meddai, "a phlygu fel bydd ei ffroen yn dyn ar fy mrest i, gyferbyn â'm calon, a rhwymo'r cortyn am y triger ac o dan y gadair a dyfod ag o dros y sêt a—Wel, dyma'r terfyn.
A rhoes un olwg ar y gegin, a rhyw gymysgedd o brudd-der a phoen annirnadwy yn ei drem. Yna cododd, ac aeth i gongl y gegin lle yr oedd cloc wyth niwrnod, ac o'r cyfwng rhwng y cloc a'r dreser estynnodd wn dau-faril, a chychwynnodd tua'r gadair dan ei agor; ond gwelodd y ci ef yn estyn y gwn a chododd yn gyffrous oddiar y mat, lle y gorweddai, gan ysgwyd ei gynffon yn llawen—yn union fel y gwnâi, pan fyddai Ifans yn estyn y gwn i fyned allan i saethu. Daeth rhyw dyndra poenus i wddf Ifans, ac meddai, "Na, Gel