Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth ei benelin. "Dyna wnaeth yr hen Ddic Jôs er ys talm," meddai, "pan godwyd gwarant arno, mynd at y Cei yn y Dre, a gosod ei gôt a'i het ar y wal, â charreg arnynt, a phobl yn meddwl ei fod wedi ei foddi ei hun, a'r plismyn a phawb yn chwilio yn galed am ei gorff, ac yntau yn y cyfamser yn ei gwadnu hi am Lundain i ddal llong i Awstralia, a phan welodd tri o longwyr o'r Felinheli ef mewn rhyw dafarn yn Sydney, ym mhen rhai blynyddoedd, a mynd ato fo a siarad yn Gymraeg, a'i alw fo wrth ei enw, 'chyffrôdd yr hen Ddic ddim o gwbl, dim ond edrych arnynt yn siriol a dweud wrthynt yn Saesneg: "I am very sorry, gentlemen, that I can't understand Russian, but we'll have a drink together all the same." P'am na fedraf innau wneud yr un fath?"

"Ac eto, er bod ugain mlynedd er hynny, mi welai pobl drwy'r peth ar unwaith. Na, mi heliaf fy mhethau at ei gilydd, ac amser brecwast mi ddywedaf wrth Mrs. Huws fy mod yn gorfod mynd i ffwrdd, ac na fydda' i ddim yn f'ôl efallai tan fore'r rhent; mi rydd hynny imi—arhoswch chwi, un,-dau,-tri,-tri bore. Mi fydd y banc yn agored ddeg, a dyma drigain punt Lewis Gruffydd, bendith arno fo, a'r hanner canpunt yn y banc, yn fy enw i beth bynnag, efallai y byddai'n well imi beidio â'u codi i gyd, a'r tipyn sydd gen' i yn y tŷ yma. Yrŵan, y 'Merica, South Africa, ynteu Awstralia? Dyna'r cwestiwn. Wel, fe ddibynna hynny ar i ba un o'r lleoedd hyn y caf long gyntaf. Pacio yrwan, a rhaid i mi beidio â mynd â llawer o bethau—wed'yn i'm gwely, ond nid i gysgu,—mi gaf ddigon o hynny yn nes ymlaen.