PENNOD XIV
CHWALFA
PAN ddywedodd Ifans wrth ei howscipar amser brecwast ei fod yn mynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau, meddyliodd ei fod yn mynd i gael tipyn o drafferth i'w thawelu, ac yr oedd yn amlwg nad oedd ei dedwyddwch newydd wedi ei rhwystro hi i amau nad oedd popeth yn iawn, a bod rhywbeth ar feddwl Ifans.
Ond gwnaeth Ifans un sylw a arbedodd iddo drafferth fawr, ac a ddaeth â heulwen i wyneb Mrs. Huws. "mi fydd meddwl eich bod chi, Annie, yn fy nisgwyl i'n ôl, yn gwneud y daith y tro yma yn dra gwahanol i bob un o'i blaen." A chusanodd hi ar hiniog y drws, a chychwyn cerdded yn heini i lawr y lôn at y ffordd fawr.
"Siawns gen' i," meddai wrtho'i hun, "na byddaf, gyda thipyn o lwc, cyn pen ychydig iawn yrŵan, yn rhydd o'm helbulon, a Duw a ŵyr, y cymeraf dipyn mwy o ofal y tro nesaf. Yr ydw' i wedi dysgu fy ngwers, os gwnaeth neb, er. —Pwy felltith ydyw hwnacw?"
A safodd Ifans i syllu'n galed ar ryw ddyn, a welai draw yn dyfod yn gyflym i'w gyfeiriad, ac wedi gweled Ifans yn sefyll, yn codi ei law arno, ac yn dechrau rhedeg tuag ato, dan weiddi rhywbeth.
"Ie, ar f'enaid i," ochneidiodd Ifans, "y fo ydyw hefyd, y llymgi Roberts yna-ond yr wyt ti'n rhy hwyr, fy machgen i." A chychwynnodd Ifans redeg, a dal i redeg, nes y dechreuodd gyfarfod pobl ar y ffordd.
Pan welodd Roberts Ifans yn rhedeg, rhedodd yntau yn gyflymach, ond ychydig iawn a enillai arno. "Rhaid imi ei ddal a dweud fy neges wrtho," meddai, dan sychu ei chwys, "neu fe'm lladda Parri fi. Hen dro na buaswn i wedi codi ddeng munud yn gynt."