yn ddistaw drwy'r drws, a pan oedd Ifans yn dyfod drwyddo, pwy oedd yn ei ddisgwyl ond Roberts, â golwg ryfedd arno. "Fel hyn y mae ei deall hi, Peace?" sïodd. "Fforciwch rai o'r—
A dyna'r cwbl a gafodd ddweud, oblegid daeth cyfnewidiad syfrdanol dros Ifans, gollyngodd ei fag, ac ymddangosai fel petai wedi mynd yn llythrennol wallgof.
"Aros di'r lleidr budr," ysgyrnygodd, a chyn i Roberts wybod beth a ddigwyddasai, yr oedd Ifans wedi neidio iddo, a'i fwrw i lawr dau ris carreg drws—allan y banc, nes ei fod yn rowlio yn y gwter. A chyn iddo fedru cael ar ei draed, yr oedd Ifans ar ei gefn wedyn, ac â'i law chwith yn ei lindagu, a'i bwyo yn ei wyneb a'i ddwrn de. Y tebyg yw y buasai wedi ei ladd onibai bod Sarjant Bowen a phlisman yn digwydd pasio ar y pryd; ac nid ar chware bach y llwyddodd y ddau gyda'i gilydd, i'w drechu; yn wir bu'n rhaid rhoi'r cyffion am ei arddyrnau yn y diwedd. Ac yn ôl pob tebyg, teimlo'r rheini am ei freichiau a ddaeth ag ef ato'i hun.
Pan sylweddolodd beth a ddigwyddasai, a bod bagad o bobl wedi ymgasglu, plygodd ei ben, ac meddai yn ddistaw, "Ewch â fi oddiyma os gwelwch chwi'n dda,'rôf i ddim trafferth o gwbl i chwi."
"Ewch ag o i—y—acw, Puw," ebe'r Sarjant, "mi drefnaf innau i gael Roberts at y meddyg; mi ddof ar eich ôl yn y munud."
A chychwynnodd y ddau ar hynny.
Ond cyn eu bod wedi mynd mwy na rhyw gan llath, pwy a ddaeth i'w cyfarfod ond Parri y Bwtsiar!
Ac yn holl yrfa gythryblus y gŵr hunanfeddiannol hwnnw, ni bu'n nes iddo gael gwasgfa, na phan welodd o Ifans yn dyfod yng ngofal plisman, â'i goler wedi datod, â golwg aflêr arno, a'r gefynnau am ei arddyrnau, a phedwar neu bump o fechgyn chwilfrydig yn ei ganlyn ar feisyclau.
Heb feddwl beth oedd yn ei wneud, safodd Parri a rhythu