Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnynt yn pasio; cyffyrddodd y plisman yn ei helm yn barchus, a digwyddodd Ifans godi ei ben, a'i weld, ac edrychodd fel teigr arno.

"Yr ydw' i yn actio fel ffŵl," ebe Parri wrtho'i hun, "yn rhythu arnynt fel hyn." Ond pan edrychodd o'i gwmpas, gwelai bawb arall yn gwneud yr un peth. "Na," meddai, "peth hollol naturiol oedd imi wneud hynny, ond 'doeddwn i ddim yn lecio golwg Ifans o gwbl." Amneidiodd ar un o'r bechgyn a'u dilynai, i ddyfod ato, a gofynnodd iddo beth oedd yn bod.

"Mr. Ifans y Stiward," meddai'r bachgen yn gynhyrfus, "wedi bod yn cwffio efo rhyw ffarmwr."

Heb betruso rhagor, troes Parri i lawr un o'r strydoedd cefn, a chyflymu tua'r siop, dan dynnu ei wats allan.

"Daliwch y car ar unwaith," meddai wrth y gwas, ac aeth i'r tŷ, estynnodd fag wedi ei lenwi yn barod, a mân bethau eraill o'r drôr, a rhoes gôt ysgafn amdano. "Am y stesion cyn gynted byth ag y medrwn ni, Richards," meddai, gan neidio i'r car, "Mae'n rhaid imi fod yn Birmingham y prynhawn 'ma. Rhowch y rêns i mi," a rhoes chwip ar y ceffyl a chodi carlam, a phan oeddynt yng ngolwg y stesion yr oedd y trên yn cyrraedd. "Rhedwch a gofynnwch i'r giard beidio â mynd am foment," meddai, "tra byddaf yn cael ticed i Birmingham."

"Mi gaf y newid eto," meddai wrth y gwerthwr ticedi, a rhuthrodd ar draws y platfform, a'i fwrw ei hun i gerbyd y daliai y stesionfeistr ei ddrws yn agored iddo, pan oedd y giard yn chwibanu, ac yn rhoi arwydd i'r trên gychwyn. "Mae'ch bagiau chwi ar y rac, syr," meddai'r stesionfeistr, gan roi clep ar y drws, tra ceisiai Parri ddiolch iddo.

Yn y cyfamser, cyraeddasai y plisman ac Ifans y rheinws, a chyn eu bod wedi mynd i mewn, galwodd y sarjant yno, ar ei ffordd i rywle, ac o weled golwg mor enbyd o ddigalon ar Ifans, cyffyrddwyd ei galon-a rhaid cofio hefyd fod