Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Ifans yn ddyn a berchid ac a anrhydeddid yn gyffredinol, yn wir, ystyrid ef yn un a fyddai yn fuan iawn ar fainc yr ustusiaid. "Mr. Ifans," meddai'r Sarjant, "mae'n ofid calon i mi fod wedi gorfod eich gyrru chwi drwy'r stryd efo'r rhain am eich arddyrnau—tynnwch nhw ar unwaith, Puw, a mi wnaiff y musus yma gwpanaid o de i chwi yrwan. Mi fyddaf innau yn f'ôl gyda hyn."

Dangosodd gwraig y sarjant hynawsedd mawr tuag ato, ac ni bu Ifans erioed yn falchach o gwpanaid o de, er ei fod yn ddrych o dristwch i edrych arno.

Toc, daeth yr Arolygydd Jones ei hun i mewn o rywle, ac er ei fod wedi cael hanes yr helynt, ni chymerth arno wrth ddyfod i mewn i'r gegin, ei fod yn gwybod dim.

"Bore da, Mr. Ifans," meddai, heb ddangos ei fod yn sylwi ar ymdrech Ifans i beidio â thorri i lawr wrth geisio ateb. "Musus bach," meddai wrth wraig y sarjant, "wnewch chwi ddim anghofio cenau mor gas ydw' i am y tro, a thrugarhau wrth yr hen super druan, a rhoi cwpanaid o de iddo fo?" A thra bu yn ei hyfed, siaradai yn ddi-baid, er bod Ifans yn ceisio torri ar ei draws o hyd, i ddatgan ei ofid, a'i gywilydd ohono ei hun.

"Cwpanaid o de ardderchog, Musus," ebe'r arolygydd, "ac yr ydw' i yn sicr y gwnewch chwi faddau inni am godi ar unwaith fel hyn, cyn gynted byth a'n bod ni wedi cael bwyd. Mi awn ni drwodd ein dau i'r offis, Mr. Ifans."

Sibrydodd y plisman wrth yr arolygydd, "Chafodd o mo'i chwilio, syr, ond fûm i ddim o'i olwg o gwbl."

"Super annwyl!" meddai Ifans, "yr ydw' i wedi ei gwneud hi. Wn i ddim beth ddaeth trosof, ond . . . ond . . ." A thorrodd Ifans i lawr yn lân. Ac er i'r arolygydd roi amser, a help iddo, ni chafodd ddim gan Ifans, ond datgan ei ofid drachefn, a thrachefn, eithr heb roi dim gwybodaeth o gwbl.

"Wel, Mr. Ifans, mi drefnaf i gael dau ustus yma,"—a gwingodd Ifans, "dim ond ychydig funudau fyddan' nhw