ac wed'yn mi gewch fynd adre. Mae yna ryw un peth bach arall; mae'n ddrwg gen' i, ond yr ydym ni'r plismyn fel y gwyddoch, yn rhwym wrth reolau hefyd. Rhaid i mi ofyn i chi drosglwyddo popeth sy'n digwydd bod gennych efo chi, a mi wnawn ni restr ohonynt."
"Beth ydych yn feddwl, Super?" gofynnodd Ifans mewn syndod.
"O, dim ond 'matter of form.'
Mi'u cewch nhw'n ôl i gyd pan fyddwch chi'n mynd allan; mi fyddwn yn gwneud hyn efo pawb ddaw i mewn."
"O! ie, siwr iawn," ebe Ifans, "Roeddwn i wedi anghofio." A dechreuodd fynd trwy 'i bocedi ac estyn ei wats a'i gyllell, agoriadau, ei bwrs, tipyn o arian, ac o boced cesail ei gôt, yn ddiwethaf oll, tynnodd dri neu bedwar o lythyrau, a'u gosod ar y bwrdd. "Dyna'r cwbl, Super," meddai gan eistedd i lawr, ond ar hynny, gyda rhywbeth rhwng sgrech ac ochenaid, neidiodd i fyny, ac at y bwrdd gan geisio cythru i'r llythyrau.
Ond bu'r arolygydd yn gyflymach nag ef, a chyn i Ifans gael gafael yn y llythyrau, yr oedd llaw yr arolygydd arnynt.
"Chewch chi mo'r—y fi piau—'does gennych chi ddim hawl ar y llythyrau i," gwaeddodd Ifans yn gynhyrfus, a golwg ofnadwy ar ei wyneb.
"Beth ydyw'r mater, Mr. Ifans?" gofynnodd yr arolygydd yn syn, "wnawn i ddwyn dim,"
"Rhowch y rheina i mi," llefodd Ifans, gan wthio'r plisman yn ôl, a rhuthro ar yr arolygydd a dechrau ymdrechu ag ef. Daethai cyfnewidiad anhygoel dros y carcharor.
Prin y credid mai'r un ydoedd y creadur gwallgof a ymladdai fel teigr, â'r gŵr tawel, trist, a ddaethai mor ddi-stwr i'r rheinws. Ac nid cyn i'r plisman afael ynddo o'r tu ôl a'i dynnu ar wastad ei gefn ar lawr a rhoi'r snapiau am ei arddwrn, y cawsent y llaw uchaf arno, chwaith.
Ac wedyn daliai i fytheirio, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnynt, heb fedru dweud yr un gair dealladwy.