Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Beth felltith sydd arnoch chwi ddyn?" gofynnodd y plisman, wedi dechrau colli ei dymer, a rhoi plwc a thro ciaidd ar y snapiau.

Ond cyn pen hanner munud, yr oedd Ifans drachefn yn aflonyddu ac yn tantro. "O'r Tad," ebe'r arolygydd, gan godi'n sydyn, â golwg benderfynol arno, "yr ydym wedi cael hen ddigon ar y lol yma. 'Rŵan, Puw."

Ac ym mhen hanner munud, yr oedd Ifans dan glo yng nghell carchar y Dre-a'r arolygydd yn trefnu ei bethau cyn eu rhoi yn ei ddesg dan glo; ond ar hynny, dyma ŵr pwysig yno i'w weled, a chollodd yr arolygydd ddwyawr o amser amhrisiadwy, ac efallai gyfle euraid ei fywyd hefyd.

PENNOD XV
Y PETH A HEUO DYN

"WEL," meddai'r Arolygydd Jones, ar ôl i'r ymwelydd fyned, "dyna orffen y busnes yna; yrŵan mi gaf gyfle i drefnu pethau Ifans; petai o heb golli ei limpyn, mi fyddai cwrt wedi bod arno ers meitin, a'i achos wedi ei ohirio, ac yntau gartre. Beth gebystr," gofynnodd yr arolygydd, gan droi'r llythyrau, "ddarfu gynhyrfu cymaint ar 'y machgen i? O! mi welaf, yr arian papur yma debyg iawn; gwarchod ni, faint sydd yma ohony' nhw? Ofn oedd arno, mae'n debyg, inni gadw rhai ohon. Hylo! Beth andros ydyw hwn? Llythyr i Doctor Wyn, y crwner! Heb ei gau hefyd. . . ."

Ac os gŵr rhadlon a thipyn yn hamddenol, ydoedd yr arolygydd fel rheol, medrai symud yn dra bywiog, pan fyddai galw; ac yn sicr ni symudodd erioed fawr cyflymach nag y gwnaeth, wedi iddo ddarllen y llythyr a ysgrifenasai Ifans