Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyw ganllath oddi wrth y rheinws, "mi gaf gyfle i ddiolch mwy i chi eto o bosibl; mi gerddaf weddill y ffordd."

"Wel," meddai wrtho'i hun, "dyna fi wedi gwneud popeth a fedraf, ac efallai fy mod wedi gwneud gormod, ac os na byddaf yn lwcus, mae'n debyg y caf gerydd a gwawd y prif gwnstabl. Mi'r ydw' i yn gwybod fy mod wedi cymryd risc, a mynd dros derfynau fy awdurdod, ond mi'r oedd yn werth gwneud. Wel, mi af i weld y teigr yn ei gawell yrŵan, i edrych a ydyw wedi dofi tipyn. . . . Diain innau, dyma Puw yn dyfod oddiar ei fît. "Puw, dowch i weld sut drefn sydd ar y bwystfil, mae'n well i chwi ddwad efo mi, rhag ofn iddo fy llarpio i. Ha! ha! Mae o'n bur ddistaw."

Agorodd yr arolygydd y twll-sbïo, a oedd yn y drws, a dychrynnodd drwyddo; a chyn i Puw fedru rhoi'r agoriad yn y drws, cipiodd yr arolygydd ef o'i law, heb ddweud dim, ac agor y drws. A dyna lle'r oedd Ifans yn union o'u blaen, â'i ddau lygad yn llydan agored yn rhythu arnynt, a'i gefn ar fur pellaf y gell, a'i draed rhyw droedfedd oddi wrth y llawr, yng nghrog wrth ei grafat, a hwnnw wedi ei rwymo wrth un o farrau heyrn y ffenestr.

Eiliad fu'r ddau yn ei dynnu i lawr, ond yr oedd yn amlwg ei fod wedi marw ers meitin. . .

"Wel, dyma bicil," meddai'r arolygydd wrtho'i hun, wedi rhoi cyfarwyddiadau i'r plisman, a mynd i'w swyddfa, "It never rains but it pours,' ac yn ôl a welaf i, mae hi yn ddilyw arna' i heddiw. Rhaid cael cwest, a beth felltith ydw'i i wneud efo'r hen lythyr yma 'rŵan? Hwn ydyw fy esgus i dros wneud popeth a wneuthum i y prynhawn yma, ac yrŵan mae o'n debyg o ddifetha fy holl gynlluniau i eto, damia fo; mi ddylwn ei ddangos o i'r Chief, a 'wna i mo hynny chwaith, na wnaf ar f'end innau. Chaiff o ddim hwyl am fy mhen i, os ydyw Ifans wedi dweud celwydd, a 'chaiff o mo'r clod am ddal Parri ychwaith, os medra' i brofi fy achos; fi sy'n cael y drafferth i gyd, yn rhedeg